Dim offer recordio cudd wedi'i ganfod yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
CynulliadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Staff y Cynulliad fu'n chwilio am unrhyw offer recordio cudd

Mae swyddogion yn dweud nad oes unrhyw offer recordio cudd wedi'u canfod yn y Cynulliad ar ôl i archwiliad o'r safle gael ei gynnal.

Fe ddigwyddodd hynny yn dilyn ffrae dros recordiadau cudd gafodd eu gwneud gan yr AC Neil McEvoy o'r Comisiynydd Safonau ar y pryd, Syr Roderick Evans, oedd yn goruchwylio tri chwyn yn ei erbyn.

Yn ôl Comisiwn y Cynulliad, sy'n gyfrifol am yr adeiladau a'r staff, nid oes unrhyw offer recordio cudd wedi'u canfod.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod yn parhau i gynnal ei ymchwiliad ei hun i "nifer o gwynion" yn dilyn y ffrae.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Syr Roderick Evans ymddiswyddo ar ôl i recordiadau cudd Neil McEvoy ddod i'r amlwg

Fe wnaeth Syr Roderick ymddiswyddo yn gynharach yn y mis ar ôl cwyno bod ymddygiad Mr McEvoy trwy recordio ei sgyrsiau gyda'i staff yn "hollol annerbyniol".

Mae Mr McEvoy yn honni bod y recordiadau yn dangos Syr Roderick yn bod yn rhywiaethol ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobl.

Ond dywedodd Syr Roderick bod llawer o'r hyn sydd wedi'i rannu gan Mr McEvoy yn gamarweiniol.

Fe wnaeth Mr McEvoy recordio sgyrsiau'r comisiynydd wrth iddo gynnal ymchwiliad i'r AC annibynnol, gan ddefnyddio ffôn roedd yn dweud oedd yn ei siaced, ei fag neu ar fwrdd.

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones bod recordio sgyrsiau preifat yn gudd yn "dor-ymddiriedaeth difrifol", a'i bod wedi gofyn i'r heddlu ymchwilio i gyfreithlondeb y recordiadau.