Hyfforddwr y Gweilch, Allen Clarke, yn gadael ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Allen Clarke

Mae prif hyfforddwr y Gweilch, Allen Clarke, wedi gadael ei swydd gyda'r rhanbarth.

Dim ond un fuddugoliaeth sydd gan y Gweilch yn y Pro14 hyd yn hyn y tymor hwn.

Maen nhw hefyd wedi colli eu dwy gêm agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, gan gynnwys crasfa oddi cartref yn Saracens dros y penwythnos.

Fe wnaeth Clarke arwyddo cytundeb tair blynedd o hyd gyda'r rhanbarth yn 2018.

Roedd y cyn-fachwr yn hyfforddwr y blaenwyr cyn cael ei benodi'n brif hyfforddwr ar ôl ymadawiad Steve Tandy.

Daw'r cyhoeddiad yn fuan ar ôl i'r rhanbarth gyhoeddi y byddai hyfforddwr yr olwyr, Matt Sherratt, yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Mae'r Gweilch yn herio'r Cheetahs yn y Pro14 ddydd Sadwrn.