Y ‘sŵ’ mewn ysgol gynradd sy’n helpu plant i ddysgu
- Cyhoeddwyd
Dychmygwch fynd i'r ysgol i edrych ar ôl ieir, gwenyn a chameleons a chael treulio ambell b'nawn efo ci hoffus yn hytrach nag o flaen bwrdd gwyn.
Dyna mae plant Ysgol San Siôr, Llandudno, yn ei wneud ac mae treulio amser yn gofalu am anifeiliaid a dysgu am yr amgylchedd yn helpu'r plant gyda'u haddysg meddai'r prifathro, Ian Keith Jones.
Mae plant yr ysgol yn gwerthu wyau a mêl ac yn gwneud catwad (chutney) o'r afalau sy'n tyfu ar dir yr ysgol.
Yn ogystal â dysgu am fyd natur mae'r plant yn dysgu delio gydag arian drwy redeg busnes hefyd felly.
"Mae gynnon ni 246 o blant a 120 o ieir a bob blwyddyn rydyn ni'n cynhyrchu oddeutu 20,000 o wyau," meddai Mr Jones.
"Ar hyn o bryd ni di'r unig ysgol yng Nghymru sy'n gallu gwerthu wyau yn uniongyrchol i'r siopau.
"Mae'r elw wedyn yn cael ei fuddsoddi mewn i brosiectau amgylcheddol eraill. Mae gynnon ni ddeg cwch gwenyn ar hyn o bryd.
"Rydyn ni'n cynhyrchu mêl a chynaeafu'r mêl bob mis Mehefin, Gorffennaf ac yn gwerthu hwnna wedyn yn ffair fêl Conwy.
"Mae'r arian yna i gyd yn cael ei ddefnyddio mewn gwahanol brosiectau amgylcheddol; mae gynnon ni sŵ yn yr ysgol - mae gynnon ni fwy o ymlusgiaid na Sŵ Bae Colwyn ar brydiau achos pan mae'r cameleons yn bridio rydan ni weithiau efo 47 o gameleons bach."
Codi safonau llythrennedd a rhifedd
Drwy astudio'r ymlusgiaid yma mae'r plant yn dysgu am fforestydd glaw ac yn cynnig gweithdai i ysgolion eraill am gadwraeth a gofalu am yr holl greaduriaid sydd ganddyn nhw.
Mae'r gweithgareddau yma i gyd yn codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd y plant, meddai Mr Jones.
"Be ydyn ni'n trio'i wneud ydy'r lincio'r elfen amgylcheddol i entrepreneurialship so mae'n bosib gwneud pres drwy'r prosiect amgylcheddol.
"Rydan ni wedi cychwyn clwb busnes ar wahân - mae gynnon i glwb ar ôl ysgol a chlwb haf ac mae'r plant yn gofalu am yr anifeiliaid tra maen nhw yn y clwb".
Mae gwahanol ddosbarthiadau yn gyfrifol am yr ieir bob dydd - amser egwyl maen nhw'n eu bwydo a rhoi dŵr iddyn nhw a hel yr wyau.
Wedyn maen nhw'n pacio'r wyau er mwyn eu gwerthu.
Mae eu cychod gwenyn ar dir yr ysgol heblaw am un, sydd ar fynydd y Gogarth. Mae'r plant wedi sylwi bod y mêl sy'n cael eu gynhyrchu yno yn blasu'n wahanol i weddill y mêl gan fod y gwenyn yno yn bwydo ar rug y Gogarth.
Celyn y ci darllen Cymraeg
Ond mae presenoldeb un anifail wedi gwneud gwahaniaeth meddai Mr Jones sef y ci darllen Cymraeg, Celyn y labradŵdl.
"Mae'r ci darllen wedi bod yn llwyddiant ysgubol," meddai. "Dydi'r plant ddim ond yn siarad Cymraeg efo'r ci - maen nhw'n sylweddoli fod o ddim yn deall Saesneg ac maen nhw ddim ond yn siarad Cymraeg efo'r ci.
"Mae'r plant yn dod yma ac yn darllen i'r ci ac wrth wneud hynny mae'n codi hyder y plant - does neb yn eu cywiro nhw ac rydych chi'n gallu clywed y plant yn amrywio goslef eu llais wrth siarad efo'r ci.
"Mae'n gi therapi hefyd; mae plant sydd efo autism yn dod at y ci a jyst yn ymlacio yn ei gwmni."
Mae hyn i gyd yn rhan o ethos i newid agwedd at addysgu'r plant.
"Mae cwricwlwm newydd yn mynd i fod yn dod i rym mewn cwpl o flynyddoedd a'r syniad ydi ein bod ni'n dod â profiadau byw i'r plant yn hytrach na pynciau," meddai Mr Jones.
Un o'r enghreifftiau o hyn ydy eu bod wedi rhoi fit bit ar goler y ci ac ar un o'r ieir. Drwy ddefnyddio eu sgiliau mathemateg mae'r plant yn gallu darganfod faint mae'r anifail wedi ei gerdded mewn diwrnod, faint o egni mae wedi ei losgi, ac yn y blaen.
"Dwi'n teimlo bod gan blentyn chwilfrydedd naturiol yn y byd o'i gwmpas," meddai Mr Jones. "A thrwy ennyn diddordeb y plant mewn trapiau gwyfynod, mynd allan yn y maes, dringo coed ac ati maen nhw'n perfformio'n well achos maen nhw'n dysgu heb sylweddoli eu bod nhw'n dysgu."
Hefyd o ddiddordeb: