Plant Cymru wedi eu datgysylltu o natur

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn neidioFfynhonnell y llun, RSPB
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r RSPB yn poeni bod plant yn colli cysylltiad gyda byd natur a bod gan hyn oblygiadau i'r dyfodol

Mae llawer llai o blant Cymru â chysylltiad agos gyda byd natur o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil newydd gan yr RSPB.

Fel rhan o brosiect tair blynedd, darganfuwyd mai dim ond un mewn wyth o blant Cymru sydd â lefel mae'r elusen yn ei hystyried yn un "derbyniol ac o fewn cyrraedd pawb".

Cafodd yr adroddiad ei lunio mewn ymateb i bryderon cynyddol fod plant yn llai tebygol o fod a chysylltiad gyda bywyd gwyllt.

Mae'r RSPB yn poeni bod hyn yn cynrychioli un o'r bygythiadau mwyaf mae byd natur yng Nghymru yn ei wynebu.

Ymchwil newydd

Yn ôl yr ymchwil, mae'r cyfradd o blant sy'n byw yng Nghymru gyda chysylltiad sydd "o fewn cyrraedd bob plentyn" yn isel iawn o'i gymharu â gweddill gwledydd y DU.

Dim ond 13% o blant Cymru sydd â chysylltiad gyda byd natur sy'n cael ei ystyried yn un "realistig a chyraeddadwy" gan yr RSPB.

Mae hyn o'i gymharu â chyfartaledd o 21% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, gyda 21% o blant Lloegr yn cyrraedd y lefel, 27% o blant yr Alban a 25% o blant Gogledd Iwerddon.

Roedd y ffigwr ar gyfer Cymru llawer llai na'r un ar gyfer Llundain hyd yn oed, oedd yn 24%.

'Natur mewn trybini'

Mae Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr Cymru'r RSPB yn ofni bod y canfyddiad yma yn dangos fod byd natur mewn "trybini".

"Mae byd natur mewn trybini," meddai, "ac mae cyswllt cryf rhwng hyn â chysylltiad plant â byd natur.

"Dengys yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur diweddar fod byd natur yn y DU a Chymru yn prinhau'n gyflym iawn. Gallwn ni gyd weithredu i sicrhau bod byd natur unwaith eto yn rhan o blentyndod, a sicrhau bywydau a dyfodol gwell i bobl ifanc.

"Am y tro cyntaf, rydym wedi creu man cychwyn y gallwn ni ac eraill ei ddefnyddio i fesur beth yw gwir hyd a lled cysylltiad plant â byd natur.

"Wrth fabwysiadu'r dull newydd hwn o weithredu, gallwn i gyd fonitro cysylltiad y plant ac rydym yn argymell bod llywodraethau ac awdurdodau lleol yn gweithredu i'w gynyddu drwy benderfyniadau yn ymwneud â pholisi ac ymarfer."