Merched, y menopos, a chael 'fy mywyd yn ôl'

  • Cyhoeddwyd
menap
Disgrifiad o’r llun,

Helen, Llinos a Victoria

Mae cyfnod y menopos yn gallu bod yn anodd i fenywod wrth iddyn nhw gyrraedd eu 40au neu 50au, i eraill mae'n gallu mynd heibio heb fawr o effaith.

Yma mae tair ffrind yn trafod y symptomau, a'r heriau wrth i fywyd a chorff newid wrth fynd yn hŷn.

Mae Helen Scutt o Landeilo yn 57 oed, a phum mlynedd yn ôl dywedodd y doctor wrthi ei bod wedi bod trwy'r menopos.

Ffynhonnell y llun, Helen Scutt

O'n i'n sobor o lwcus, achos o'dd y meddyg wedi gorfod dweud wrtha' i bo' fi wedi bod trwyddo.

Es i ato i drafod fy mhwyse gwaed uchel, ac fe ofynnodd i fi os oedd fy mislif wedi gorffen, a oeddwn i'n cael mood swings, hot flushes... d'on i ddim.

Ond fe wnaeth e brawf gwaed arnai i edrych ar fy hormonau a dywedodd mod i wedi bod trwy'r menopos! Felly fe wnes i hwylio trwyddo fe i ddweud y gwir, a dwi'n teimlo'n euog am hynny.

Ond beth dwi wedi sylwi arno ers 'ny yw bod fy nghroen i'n fwy sych, dyw e ddim mor elastig ag oedd e a thipyn bach o eczema uwchben fy llygaid. Hefyd aeth fy ewinedd yn denau iawn ac yn hollti trwy'r amser, felly dwi'n cymryd multi vitamins, a mae popeth yn lot gwell.

Fel gwaith, dwi'n dylunio gerddi ac yn gweithio i fi fy hunan, a dwi'n lwcus wnaeth y menopos ddim effeithio ar fy ngwaith i, ond dwi'n credu os ti'n gweithio mewn bancio neu'n executive er enghraifft, mae dynion yn gallu meddwl llai o fenywod [sy'n mynd trwy'r menopos] a maen nhw'n gallu teimlo'n fwy bregus.

Cyfrifoldebau

Er na chafodd y menopos effaith fawr ar fy ngwaith, mae gen i gyfrifoldebau eraill. Mae dementia ar fy Mam a weithiau bydd hi'n fy ffonio i un tro ar ôl y llall pan dwi gyda cleient. Weithie mae angen i fi wario tair awr gyda hi mewn diwrnod, a dala lan gyda fy ngwaith rhywbryd.

Pan aeth fy mhlant i brifysgol, o'n i'n meddwl 'dwi'n mynd i gael fy mywyd i nôl' a wedyn dechreuodd salwch fy mam a pherthnasau eraill sy'n byw yn lleol, felly o'n i'n edrych ar ôl tri person, felly dwi wedi cael blwyddyn anodd iawn, er bod fy mhlant wedi gadael gartref.

Mae gyda chi gyfrifoldeb am eich plant o hyd, achos chi'n dal yn fam iddyn nhw, ond hefyd mae'n bosib, pan chi'n cyrraedd fy oedran i, bod gyda chi gyfrifoldeb am eich rhieni neu berthnasau.

Ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i gael dy ryddid di yn ôl, a ti ddim. Ac ar ben popeth, mae'n digwydd hefyd pryd ti'n mynd trwy dy menopos.

Mae pobl yn siarad am yr effaith mae plant yn cael ar fenyw, achos mae'n cael effaith mawr, ond 'sneb yn siarad am fenywod a'r menopos. Ond mae e'n thing.

Ffynhonnell y llun, Llinos Lloyd

Mae Llinos Lloyd yn berchen ar fodurdy Lloyd Motors yn Aberaeron. Cafodd lawdriniaeth hysterectomi rai blynyddoedd yn ôl wnaeth arwain at symptomau'r menopos dros nos.

Ges i hysterectomi amser o'n i'n 49 oed, a dwi'n 53 erbyn hyn. Rhyw fis ar ôl y llawdriniaeth, roedd fel cerdded mewn i wal gerrig. Roedd fel induced menopause, yn digwydd dros nos.

Roedd yr hot flushes, y peth rhyfedda' i ddweud y gwir. Nid yn unig o'n i'n ymdopi gyda gwella o gael llawdriniaeth, ond o'n i wedyn yn gorfod ymdopi gyda'r symptomau hyn.

Yn y gwaith, fydden i'n eistedd rownd y ford efo llond 'stafell o bobl, dynion fwyafrif, ac yn sydyn reit fydden i'n teimlo'r gwres 'ma yn dod ar fy ngwyneb i.

O'n i'n teimlo mor annifyr ac yn embarrassed, ond yn waeth na dim, oeddech chi'n cwestiynu a oedd pobl yn gallu gweld eich bod chi'n cael hot flush.

Roedd e fel petai rhywun yn cynnau tân tu fewn yng nghorff i ac oedd e'n dod mas trwy fy ngwyneb a fy nghefn i. O'dd e'n ofnadw'.

Dwi'n cofio dweud wrth fy nghymar sut o'n i'n teimlo, a dywedodd e y dylen i deimlo'n browd, o ystyried beth o'n i wedi mynd drwyddo.

'Sai'n mynd i deimlo embaras rhagor'

Felly dechreuais i feddwl yn wahanol, prynes i ffan mawr, ac os o'n i'n teimlo'r gwres yn dod drostai, fydden i'n defnyddio'r ffan a roedd y teimlad wedyn yn pasio yn gloi.

O'n i'n onest ac yn dweud 'dwi'n cael hot flush'. Menyw ydw i, sai'n mynd i deimlo embaras rhagor, a fel 'na wnes i ymdopi gyda'r peth.

'Dim dewis ond i gario mlaen'

R'on i'n edrych ar ôl fy rhieni trwy gydol yr amser dwi wedi bod trwy hyn, ond i fi doedd dim dewis 'da fi, o'n i'n gorfod cario mlaen, dwi'n eitha cryf fel 'na.

O'n i'n gorfod mynd i ngwaith ta shwt o'n i'n teimlo, o'n i yn gorfod edrych ar ôl fy nhad oedd yn sâl iawn, a mam, gymaint ag y gallwn i, cyn iddi fynd i gartref. Roedd gen i gyfrifoldeb dros y tri mab hefyd, achos rwy' wedi eu codi nhw ar ben fy hunan.

Oherwydd bod fy symptomau mor eithafol, fe wnaeth yr arbenigwr awgrymu HRT [Hormone Replacement Therapy] fel triniaeth, ac fe dries i bedwar gwahanol math, ond o'n i'n teimlo i'r gwrthwyneb i bobl eraill.

O'n i'n teimlo yn eitha' isel fy ysbryd, a dwi ddim y teip 'na o berson o gwbwl, dwi'n berson hapus. O'dd fy meibion a nghymar i'n sylwi mod i ddim fy hunan. Doedd y driniaeth ddim yn gweithio i fi.

'Yn ni fenywod yn mynd trwyddo popeth a ddim yn cwestiynu lot, ni jyst yn bwrw mlaen. Wi'n credu os ydych chi'n agored ambiti rhywbeth mae pobl yn ei gymryd e mewn ffordd wahanol ac mae'n haws i ymdopi.

Ffynhonnell y llun, Victoria Crofton Wadham
Disgrifiad o’r llun,

Victoria Crofton Wadham (ar y chwith) gyda Helen Scutt

Mae Victoria Crofton Wadham sy'n 47 oed, yn dod o Essex yn wreiddiol. Roedd yn arfer gweithio fel stocbrocer yn Llundain, ond symudodd i Sir Gaerfyrddin 20 mlynedd yn ôl, gan redeg gwarchodfa ym Mrechfa.

Fe ddechreues i fy menopos yn ifanc iawn, r'on i'n gwybod y bydde hynny yn debygol oherwydd roedd fy mam a fy mam-gu wedi ei gael yn gymharol ifanc a does gen i ddim plant felly ro'n i'n gwybod y byddai'n debygol o ddigwydd hyd yn oed yn gynt.

Pan wnes i fwrw 40 oed, penderfynais nad oeddwn i eisiau bod ar y bilsen bellach, oherwydd o'n i eisiau bod yn rhydd o unrhyw hormonau pan fyddai'r menopos yn digwydd fel mod i'n gwybod os byddai rhywbeth yn digwydd, taw dyna oedd e.

Pan o'n i'n 43 oed, dechreuais sylwi ar newidiadau, yn llythrennol dros nos. Roedd fy mislif yn anrheolaidd a fy nghroen yn newid. Ro'n i'n cael crychau ar fy nghroen a sbots, a wir ddyle fod 'na gyfraith yn erbyn hynny, roedd yn ofnadwy!

'Doeddwn i ddim yn barod am hyn'

Dechreues i gael palpitations sawl gwaith y dydd, ond yr hyn wnaeth fy mwrw i fwya', pan wnes i sylweddoli mod i ddim yn iawn, oedd ochr emosiynol a meddyliol y peth ac mae'n rhaid i fi fod yn onest, doeddwn i ddim yn barod am hyn o gwbl. Ges i sioc mawr.

Doeddwn i ddim yn gallu rheoli fy ymateb emosiynol i ddim byd. Doeddwn i ddim yn gallu rheoli fy nhymer a doeddwn i ddim yn barod am y sefyllfa o gwbwl lle roedd fy ymennydd wedi stopio gweithio yn y ffordd yr oedd wedi gwneud cyn hynny. Yn llythrennol doeddwn i ddim yn gallu penderfynu pa ddillad isaf i wisgo yn y bore, heb sôn am ddim byd arall.

R'on i mor anghofus, gallai fy ngŵr ofyn i mi wneud rhywbeth, ac o fewn tair eiliad byddwn i 'di anghofio gwneud. Doeddwn i ddim yn gallu cadw dim byd yn fy meddwl a petawn i heb osod larymau ar fy ffôn i wneud pethau, dwi'n credu byswn yn anghofio i anadlu!

Roedd y symptomau'n gwaethygu, heb sôn am yr hot flushes dros nos, a d'on i ddim yn teimlo mod i'n gallu ymdopi rhagor, felly es i at y doctor a chael HRT.

Mi wnaeth hwn leihau'r hot flushes dros nos. Ond o safbwynt yr ochr emosiynol, mae'r driniaeth wedi lleihau rhywfaint arno.

Fy siglo i i fy nghraidd

R'on i'n gweithio fel stocbrocer yn Llundain, yn syth allan o'r ysgol, yn ferch ifanc hollol hyderus. Ond mae fy nghyflwr emosiynol i nawr yn golygu fedrwn i ddim gwneud y gwaith yna. Mae wedi fy siglo i i fy nghraidd. Mae wedi lleihau fy hunan hyder. A dyna'r effaith mwya' arna' i.

Dwi'n falch nad ydw i'n gweithio yn y ddinas nawr, allai ddychmygu'r cydweithwyr oedd gen i yn rowlio eu llygaid, ac yn bod yn sarcastig, bydde hyn ddim wedi cael ei oddef. Mae 'na bobl o fy nghenedlaeth i, dynion, fydde ddim yn deall y menopos.

Mae merched ifanc heddiw yn dueddol o fod yn fwy agored i siarad am y mislif, ond mae'r menopos - er yn fwy amlwg nag oedd - does 'na ddim gymaint o ddealltwriaeth amdano.

O ddydd i dydd, dwi jyst yn cario mlaen gyda fy mywyd, a dwi'n credu ei fod yn wir am rai o fy ffrindiau. Dwi'n meddwl petai dynion yn dioddef o'r menopos, mi fydde na cure erbyn hyn!

Mae'n reit hawdd i rywun feddwl eu bod nhw'n mynd yn wallgo, mae'n dda i fenyw i wybod ei bod hi ddim ar ei phen ei hunan, yn byw gyda'r menopos. Mae 'na help ar gael.

Hefyd o ddiddordeb: