Adwaith yn cipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019

  • Cyhoeddwyd
Adwaith
Disgrifiad o’r llun,

Adwaith - sy'n canu'n ddwyieithog - sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019

Adwaith, gyda'u halbwm Melyn, sydd wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019 mewn seremoni yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.

Melyn yw'r albwm gyntaf i'r tair ei rhyddhau.

Yr aelodau yw Hollie Singer (llais, gitâr), Gwenllian Anthony (gitâr fas, allweddellau a mandolin) a Heledd Owen (drymiau).

Cafodd yr enillydd ei ddewis gan banel o feirniaid yn cynnwys Dexter Batson (Spotify), Sean Griffiths (Mixmag), Kaptin (Boomtown), Daniel Minty (Minty's Gig Guide), Carolyn Hitt (newyddiadurwr) a Chris Roberts (blog Sôn Am Sin).

Wrth ymateb ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru dywedodd y band: "Mae hyn yn insane. Dy'n ni'n methu ei gredu e. Mae'n meddwl y byd i ni."

Fe sgwennon nhw'r caneuon pan oedden nhw'n 17 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Adwaith yn derbyn y wobr yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd nos Fercher

Disgrifiodd Huw Stephens, un o sylfaenwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, yr albwm fel "enillydd cyffrous a haeddiannol iawn o restr fer eithriadol".

"Mae Adwaith wedi cael effaith wirioneddol gyda'u cerddoriaeth bersonol, hardd sy'n cyfleu sut beth yw bod yn ifanc, benywaidd, rhwystredig a dryslyd yn y byd rydyn ni'n byw ynddo," meddai.

Mae rhai o enillwyr y wobr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i sicrhau cydnabyddiaeth ehangach gan gynnwys albymau buddugol Boy Azooga (2018), Gwenno (2015) a Gruff Rhys (2011).

Hwn oedd y nawfed tro i'r seremoni gael ei chynnal.

Yr artistiaid eraill ar y rhestr fer oedd:

  • Accu - Echo the Red

  • Audiobooks - Now! (in a minute)

  • Carwyn Ellis a Rio 18 - Joia!

  • Cate Le Bon - Reward

  • Deyah - Lover Loner

  • Estrons - You Say I'm Too Much I Say You're Not Enough

  • HMS Morris - Inspirational Talks

  • Lleuwen - Gwn Glân Beibl Budur

  • Lucas J Rowe - Touchy Love

  • Mr - Oesoedd

  • Vri - Ty Ein Tadau