Cofio pantos y 'dyn wnaeth 'rioed dyfu fyny'

  • Cyhoeddwyd
Mae rhai o sgriptiau'r pantos yn arddurno coed Nadolig Castell y Waun eleni
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o sgriptiau'r pantos yn arddurno coed Nadolig Castell y Waun eleni

Mae stori teulu oedd yn ysgrifennu eu pantos eu hunain yn cael ei hadrodd mewn castell ger Wrecsam dros y gaeaf.

Roedd yr wythfed Arglwydd Howard de Walden a'i deulu yn byw yng Nghastell y Waun yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

Adloniant y Nadolig i'r tylwyth yn y 1920au oedd perfformio'r pantos yr oedd o wedi eu sgriptio, oedd yn aml yn parodïo storïau adnabyddus.

Ei sgriptiau sy'n ysbrydoli arddangosfa coed Nadolig y castell eleni.

"Roeddan nhw'n disgrifio Howard de Walden fel dyn wnaeth 'rioed dyfu fyny," meddai Gwenno Parry o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n rhedeg y castell bellach.

"Mae 'na Peter Pan, Beauty and the Beasts, Puss in Brutes - mi oedd o'n rhoi ei dwist ei hun, sy'n gwneud o'n berthnasol i be' oedd traddodiadau'r teulu yma."

Disgrifiad o’r llun,

Pantos y gorffennol: Rhai o'r gwisgoedd roedd teulu yr Arglwydd Howard de Walden yn eu gwisgo i ddifyrru'r plant

Yn yr arddangosfa, mae 10 coeden wahanol - chwech ohonyn nhw yn arddangos eitemau'n ymwneud â'r pantos teuluol.

Mae lluniau o'r cyfnod yno hefyd, gyda gwisgoedd o'r sioeau wedi eu hail-greu.

"Roedd gan fy nain Margherita chwech o blant gyda'i gŵr Tommy [yr wythfed Arglwydd Howard de Walden], felly roedd digon o rannu i'w chwarae," meddai ŵyr yr arglwydd, Thomas Seymour.

"Addasiadau o straeon tylwyth teg oeddan nhw, yn llawn chwarae ar eiriau, dychan, slapstick a chyfeiriadau llenyddol."

Bu'r arglwydd yn byw yn y castell tan 1946, gyda'r traddodiad o bantomeim blynyddol yn fyw rhwng 1923 ac 1931.