Cwyno am dyfiant gwyrdd 'hyll' ar dai yn Arfon

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Margaret Roberts o Ddeiniolen
Disgrifiad o’r llun,

Mae tyfiant gwyrdd wedi ymddangos ar waliau nifer o dai yn yr ardal

Mae trigolion rhai o bentrefi Arfon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddelio â thyfiant gwyrdd sydd wedi ymddangos ar waliau rhai o'r tai yno.

Cafodd gwaith ei wneud yn Neiniolen, Carmel, y Fron a Dinorwig yn 2014/5 fel rhan o gynllun Arbed, dan ofal Llywodraeth Cymru.

Y bwriad oedd gostwng biliau gwresogi pobl mewn ardaloedd difreintiedig, a lleihau effeithiau nwyon tŷ gwydr.

Cafodd cartrefi gynnig ffenestri a boeleri newydd, yn ogystal â selio a pheintio waliau allanol - i gyd am ddim.

Ond mae nifer o'r trigolion yn dweud nad oedd safon y gwaith ar y waliau yn ddigon da.

Disgrifiad o’r llun,

Gwyrddni ar dŷ yng Ngharmel yn dilyn y gwaith yn 2014/15

Mae tyfiant gwyrdd i'w weld yn glir ar wal tŷ Margaret Roberts yn Neiniolen.

"Mae o ym mhobman a fedrwn ni ddim cael gwared ohono fo, ac mae o'n gwaethygu," meddai.

"Dwi reit flin. 'Nath neb ddweud bysa hyn yn digwydd, ac mae'r tŷ yn edrych yn hyll."

Yr un ydy'r sefyllfa ym mhentref Carmel.

Mae un o'r trigolion, Gerallt Llewelyn, yn dweud fod y cynllun wedi gwella'r insiwleiddio yn ei gartref, ond bod y gwaith wedi bod yn "flêr".

"Be' 'da ni isio gan Lywodraeth Cymru ydy rhywbeth i stopio'r tyfiant yma, a dwi'n meddwl mai ail-beintio ydy'r unig ateb," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gerallt Llewelyn o Garmel fod y gweithwyr eu hunain wedi bod yn "reit flêr"

Mae Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Er ei bod yn gefnogol o fwriad Arbed, dywedodd bod y sefyllfa yn "lot gwaeth nag oedd o cyn i'r cynllun gychwyn".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi cael "ambell i gŵyn" am safon y gwaith yn Arfon, a'u bod wedi comisiynu arbenigwr annibynnol i gynnal arolwg.

Mae disgwyl i'r arbenigwr gyflwyno adroddiad terfynol cyn diwedd y flwyddyn.