Dyn yn gwadu llofruddio'i gariad yn eu fflat yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed wedi gwadu llofruddio ei gariad a gafodd ei chanfod yn farw yn eu fflat yng Nghaerdydd.
Ymddangosodd Madog Llewellyn Rowlands yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau ar gyhuddiad o lofruddio Lauren Griffiths, 21, ym mis Ebrill.
Fe blediodd Rowlands, o Wrecsam, yn ddieuog i un cyhuddiad o lofruddiaeth.
Yn dilyn ei marwolaeth, fe wnaeth teulu Ms Griffiths roi teyrnged i'w "merch brydferth oedd llawn bywyd".
Bydd achos llys yn cael ei gynnal dros gyfnod o dair wythnos ym mis Ebrill 2020.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.