Pro 14: Dreigiau 12-39 Zebre

  • Cyhoeddwyd
Harrison KeddieFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Zebre groesi am bum cais wrth roi cweir i'r Dreigiau - yr Eidalwyr yn ennill am y tro cyntaf mewn 21 gêm.

Roed Zebre 13-7 ar y blaen erbyn yr egwyl, cais yr un i Jamie Elliot ac Edoardo Padovani.

Fe darodd Harri Keddie yn ôl i'r tîm cartref.

Ond fe aeth Zebre ymhellach ar y blaen wedi'r egwyl gyda Tommaso Boni, Charlie Walker a Maxime Mbanda yn croesi'r llinell.

Roedd yna gais cysur hwyr i'r Dreigiau diolch i Taine Basham.