Ymosodiad Llundain: Cyhuddo Johnson o elwa'n wleidyddol

  • Cyhoeddwyd
BlodauFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer wedi gosod blodau wedi'r digwyddiad ddydd Gwener

Mae'r prif weinidog wedi cael ei gyhuddo o "geisio ecsbloetio ymosodiad terfysgol London Bridge ar gyfer dibenion gwleidyddol".

Mae Boris Johnson wedi addo newidiadau polisi petai'n ennill yr etholiad cyffredinol wedi i Usman Khan, terfysgwr a oedd wedi ei farnu'n euog, ladd dau o bobl yn yr ymosodiad ddydd Gwener.

Dywed ymgeisydd Plaid Cymru, Jonathan Edwards, bod rhai o sylwadau Mr Johnson "yn eithaf arwynebol".

Ond dywed y Ceidwadwr David TC Davies ei bod yn iawn adolygu rhyddhau y rhai sydd wedi cael eu cyhuddo o droseddau terfysgol yn gynnar.

Ar ran Llafur mae'r Arglwydd Peter Hain wedi codi cwestiynau am y system barôl tra bod arweinydd ac ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds a Nathan Gill, arweinydd Plaid Brexit, wedi rhoi teyrnged i'r rhai a gafodd eu lladd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu West Midlands
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Usman Khan ei ryddhau yn gynnar o'r carchar yn Rhagfyr 2018

Cafodd Jack Merritt, 25 oed a Saskia Jones, 23 oed eu lladd a chafodd tri arall eu hanafu - daethpwyd â'r ymosodiad i ben pan saethodd plismyn Khan yn farw.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales dywedodd Mr Edwards: "Rwy'n credu bod rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan Boris Johnson y bore 'ma yn eitha arwynebol, yn anffodus.

"Mae e'n ceisio ecsbloetio y sefyllfa ar gyfer dibenion gwleidyddol.

"Mae e'n ceisio cuddio record wael y Blaid Geidwadol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf - mae toriadau mewn rhai meysydd yn golygu bod digwyddiadau fel hyn yn digwydd yn anffodus ac yn fwy tebygol o ddigwydd."

Mae swyddfa Rhif 10 wedi cael cais am ymateb.

Cafodd Khan sy'n 28 ei garcharu yn 2012 wedi iddo gynllwynio gyda grŵp o Gaerdydd, Llundain a Stoke-on-Trent i fomio Cyfnewidfa Stoc Llundain.

Yn 2012 cafodd ei garcharu am gyfnod annherfynedig wedi iddo bledio'n euog o baratoi gweithredoedd terfysgol.

Roedd y ddedfryd yn nodi y gellid fod wedi ei gadw am gyfnod hwy (nag o leiaf 8 mlynedd) yn y carchar petai'r awdurdodau yn meddwl bod angen.

Ond yn 2013 cafodd y ddedfryd ei diddymu gan y Llys Apêl ac fe gafodd ei ryddhau yn syth o'r carchar.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddau, Jack Merritt a Saskia Jones, a gafodd eu lladd yn raddedigion o Brifysgol Caergrawnt

Dywedodd Mr Johnson wrth raglen Andrew Marr bod angen edrych eto ar amodau 74 o bobl sydd wedi cael eu rhyddhau'n gynnar wedi iddynt gael eu carcharu am droseddau terfysgol.

Dywedodd David TC Davies, ymgeisydd Ceidwadol: "Nid wyf yn credu bod y prif weinidog yn ceisio elwa'n wleidyddol o hyn - eraill sydd wedi dewis gwneud hynny.

"Yn amlwg mae angen ymchwiliad ond roedd yr heddlu yno yn fuan iawn.

"Ond mae angen trafodaeth - yn gyntaf am ryddhau yn gynnar, yn ail am bwysigrwydd cefnogi'r heddlu a'r lluoedd arfog - boed hynny ar strydoedd Llundain neu yn anialwch Syria neu Irac.

"Mae'n rhaid i'n lluoedd diogelwch fedru gweithredu fel bo angen ac mi allai hynny olygu saethu pobl er mwyn ein cadw'n ddiogel ac ry'n angen prif weinidog sy'n fodlon cefnogi hynny."

'Y gorau a'r gwaethaf mewn pobl'

Dywedodd Cyn-Ysgrifennydd Llafur, yr Arglwydd Hain, ei bod yn bwysig cefnogi yr heddlu.

"Wrth i ni fwrw golwg ar yr hyn ddigwyddodd mae'n amlwg nad oes modd gweinyddu cyfiawnder yn rhad - dyna'r brif wers o'r digwyddiad erchyll yma."

Dywedodd Ms Dodds bod angen camu yn ôl a sylweddoli ei fod yn ddigwyddiad trasig sydd wedi arwain at golli bywyd dau o bobl.

Ychwanegodd Mr Gill: "Rwy'n credu bod yr hyn a ddigwyddodd ddydd Gwener yn dangos y gorau a'r gwaethaf o ddynol ryw.

"Yr hyn a welon oedd rywun yn llawn casineb yn cyflawni rywbeth ofnadwy... ond eto fe welsom ddewrder dynol ryw hefyd."