Beth yw profion Pisa a pham bod Cymru ar ei hôl hi?
- Cyhoeddwyd
Bydd y byd addysg yng Nghymru'n cael gwybod y canlyniadau Pisa diweddaraf ddydd Mawrth, 3 Rhagfyr. Ond beth ydyn nhw?
Teitl llawn Pisa yw'r Programme for International Student Assessment.
Mae'r prif brofion mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth ac yn cael eu cynnal bob tair blynedd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Yn 2018, fe gafodd yr arholiadau eu sefyll gan 600,000 o ddisgyblion 15 oed mewn 79 o wledydd a rhanbarthau.
Singapore ddaeth i'r brig yn ystod y profion diwethaf. Roedd Japan, Estonia, Canada a Hong Kong hefyd ymhlith y perfformwyr gorau.
Mae'r profion yn cymryd tua dwy awr ac yn cael eu cwblhau ar gyfrifiadur.
Sut mae Cymru wedi bod yn perfformio?
Dyma fydd y pumed tro i Gymru gymryd rhan yn y profion.
Yn 2010 fe wnaeth perfformiad Cymru lithro'n is na'r cyfartaledd yn y tri phwnc ac fe gafodd y canlyniadau eu disgrifio gan y gweinidog addysg ar y pryd fel rhai "annerbyniol" a "brawychus".
Ers hynny, mae'r canlyniadau wedi aros yn is na'r cyfartaledd ac yn waeth na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Dim ond 5% o fyfyrwyr Cymru oedd ymhlith y perfformwyr gorau mewn gwyddoniaeth yn 2015, tra bod 22% ymhlith y perfformwyr isel a hynny'n agos i'r cyfartaledd rhyngwladol.
Pam bod Cymru wedi bod yn perfformio'n wael?
Does dim un rheswm penodol, ond un ffactor sy'n cael ei nodi gan yr OECD yw'r angen i wella ansawdd y dysgu.
Dywedodd y cyn-weinidog addysg, Leighton Andrews, bod Llywodraeth Cymru wedi colli ffocws o bosib yn ystod y 2000au cynnar wrth ddileu profion a thablau perfformiad ysgolion.
Yn ôl adroddiad ar ganlyniadau'r profion diwethaf, dim ond 6% o'r amrywiad ym mherfformiad myfyrwyr yng Nghymru oedd o ganlyniad i'w cefndir cymdeithasol.
Dangosodd y canlyniadau hefyd fod perfformwyr gorau Cymru'n cyflawni sgoriau is na chyfartaledd yr OECD ac yn is na pherfformwyr gorau mewn rhannau eraill o'r DU.
Pam bod y profion yn bwysig?
Mae profion Pisa wedi dod yn fesur cynyddol ddylanwadol o berfformiad addysg yn fyd eang ers iddyn nhw gael eu cyflwyno yn 2000.
Mae rhai yn dadlau bod busnesau mawr yn edrych ar ganlyniadau Pisa cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi.
Ond mae 'na rhai sy'n amheus o'u gwerth ac yn dweud bod gormod o bwyslais wedi'i roi ar Pisa gan wleidyddion.
Mae yna gwestiynau hefyd ynglŷn â pha mor ddefnyddiol yw cymharu pobl ifanc 15 oed mewn systemau addysg a diwylliannau mor amrywiol ledled y byd.
Yng Nghymru, mae gwleidyddion wedi blaenoriaethu gwella canlyniadau Pisa dros y ddegawd ddiwethaf gan ddweud bod y profion yn asesu sgiliau y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol.
Mae'r Athro Alma Harris o Brifysgol Abertawe yn dweud bod angen i system addysg fod yn eangfrydig.
"Mae Pisa yn gwneud yn union yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun," meddai.
"Mae'n edrych ar berfformiad pobl ifanc 15 oed mewn tri phwnc gwahanol bob tair blynedd ond mae system addysg yn llawer mwy deinamig na hynny - yn edrych ar faterion iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, lles, cynhwysiant, tegwch.
"Mae'r rhain yn bethau na all Pisa ei fesur ond maen nhw'n bwysig iawn i unrhyw system addysg - dyna sy'n rhoi rhagoriaeth a thegwch i'r system."
Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y profion diwethaf?
Mae'r byd addysg yng Nghymru wedi bod yn mynd trwy gyfnod o ddiwygiadau sylweddol, nifer ohonyn nhw wedi eu dylanwadu gan Pisa.
Fe gafodd rhai eu cyflwyno ar ôl canlyniadau 2010 gyda sylw o'r newydd ar lythrennedd a rhifedd mewn profion cenedlaethol. Bu newidiadau hefyd i hyfforddiant athrawon.
Mae diwygiadau i arholiadau TGAU hefyd yn adlewyrchu'r sgiliau y mae profion Pisa yn eu hasesu.
Fe amlygodd y canlyniadau diwethaf bryderon nad oedd y disgyblion mwyaf galluog a thalentog yn cael eu hymestyn felly mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £3m i hybu eu perfformiad.
Y diwygiad mwyaf yw'r cwricwlwm newydd fydd yn cael ei gyflwyno yn y stafell ddosbarth o 2022 ymlaen.
Mae'r OECD wedi croesawu'r newidiadau ond mae'r sefydliad yn dweud bod y gwelliannau'n mynd i gymryd amser i gael effaith ar ganlyniadau.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi poeni ynglŷn â faint o bwys mae ysgolion yn rhoi ar Pisa.
O ganlyniad fe gafodd fideo ei ddanfon atyn nhw y tro yma yn pwysleisio'r ffaith bod y plant yn cynrychioli Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2019