Ateb y Galw: Y cerddor Lleuwen Steffan

  • Cyhoeddwyd
Lleuwen Steffan

Y cerddor Lleuwen Steffan sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Aled Wyn Hughes yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rhedeg i ffwrdd o dŷ-fferm Taid a Nain a mynd at y gwartheg godro er mwyn canu iddyn nhw. Dw i heb gael cynulleidfa cystal ers hynny!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Crysh cyntaf oedd Dewi Tyddin Badin. Dw i'n cofio cwrdd â fo ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol Gynradd Rhiwlas. Roedd ei wallt yn ddu bitsh ac roedd o'n un da am arlunio.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dw i braidd yn ddi-gywilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd albwm diweddaraf Lleuwen - Gwn Glân Beibl Budr - ei rhyddhau ddiwedd 2018

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Neithiwr mewn breuddwyd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Y gwaethaf o f'arferion drwg yw peidio â gwneud mwy o ymdrech i gwrdd â ffrindiau yn gyson. Dw i am newid hynny yn 2020.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Maes Meddygon yn Rhiwlas oherwydd yr holl atgofion.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Hmmm. Nosweithiau hwyl vs nosweithiau bodlonrwydd? Amhosib dewis.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Byth yn hwyr.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Mars Attacks yw fy hoff ffilm a'r Beibl yw fy hoff lyfr.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Efo fy mam achos ma hi'n sbel ers inni siarad. Er mwyn holi os ydi hi'n iawn basa rhaid imi ga'l gofyn Y Cwestiwn. (Be' sy'n digwydd ar ôl inni farw 'ta?)

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i'n CARU Cher.

Ffynhonnell y llun, Harry Langdon
Disgrifiad o’r llun,

Cher: gwallt mawr, dillad arbennig, llais pwerus

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gafael yn fy mhlant am 24 awr.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ma'r ateb y cwestiwn hwn yn newid o ddydd i ddydd. Am heddiw, Waeth i Mi Farw Ddim gan MR. Roedd hi'n chwarae yn y cefndir pan oedd y plant yn paratoi at fynd i'r ysgol bore 'ma.

Cyferbyniad anhygoel o gerddoriaeth llawen a geiriau tywyll. Does dim llawer o ganeuon yn g'neud imi chwerthin. Ond mae hon. A mae'n odli 'palmant' efo 'rhamant'.

Ffynhonnell y llun, Y Selar
Disgrifiad o’r llun,

Mark Roberts - y gŵr tu ôl i MR - a Paul Jones yn derbyn y Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau'r Selar 2019

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Fel mae o'n dod. Rhowch imi rywbeth dw i heb ei flasu o'r blaen.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy merch ar ddiwrnod ysgol.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Wynford Ellis Owen

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw