Proffil llawn: Lauren Price

  • Cyhoeddwyd
Lauren PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Price yw'r cyntaf o Gymru i ennill aur ym mhencampwriaeth bocsio'r byd

Lauren Price oedd y bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill teitl ym Mhencampwriaethau'r Byd pan enillodd hi'r fedal aur yn Ulan-Ude, Rwsia, ar noson lawn drama ym mis Hydref yn dilyn apêl lwyddiannus.

Barnwyd i ddechrau bod y focswraig 25 oed wedi colli'r rownd derfynol 69-75kg yn erbyn Nouchka Fontijn gan dri o'r pum beirniad.

Roedd tri beirniad wedi rhoi'r ornest i'r bocsiwr o'r Iseldiroedd (30-27, 30-27 a 29-28), tra oedd Price ar y blaen 29-28 gan ddau feirniad. Apeliodd tîm Prydain a chafodd y penderfyniad ei wyrdroi.

Ar ôl adolygu'r ail rownd, penderfynodd rheithgor o dri pherson yn unfrydol i'w hailsgorio o blaid Price - golygai hynny ei bod hi wedi ennill yr ornest, a hefyd deitl y byd.

Y fedal aur oedd pedwaredd medal Price yn olynol mewn pencampwriaethau mawr ac roedd yn welliant ar yr efydd a enillodd y focswraig pwysau canol ym Mhencampwriaethau'r Byd 2018 yn India.

Yr unig Gymry eraill sydd wedi ennill medal Pencampwriaeth Byd yw Kevin Evans, a enillodd fedal efydd pwysau trwm yn 1999, ac Andrew Selby, a enillodd arian pwysau pryf yn 2011 ac efydd yn 2013.

Wedi'i magu yn Ystrad Mynach gan ei thad-cu a'i mam-gu, a'u haddysgu ym Margoed gerllaw, cafodd doniau chwaraeon cynnar Price eu sianelu i gic bocsio a phêl-droed.

Lauren PriceFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Lauren Price y gorau i chwarae pêl-droed er mwyn canolbwyntio ar yrfa bocsio

A hithau'n ymladd yn erbyn oedolion, hawliodd Price bedwar teitl byd amatur a llu o deitlau Ewropeaidd a Phrydeinig cyn cyrraedd 16 oed.

Roedd hi'n cyfuno cic bocsio â chwarae fel amddiffynnydd i dîm menywod Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, gan eu helpu i ennill Uwchgynghrair Pêl-droed Menywod Cymru yn 2012-13, pan enillodd hi gystadleuaeth Chwaraewr y Tymor.

Erbyn hynny roedd Price eisoes wedi ennill cap dros Gymru, ac wedi chwarae'i gêm gyntaf hŷn ar 16 Mehefin 2012 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewropeaidd Menywod Uefa. Cymerodd le Sarah Wiltchire wrth i'r gêm dynnu tua'i therfyn, wrth i gôl Helen Ward roi buddugoliaeth o 1-0 i Gymru dros Weriniaeth Iwerddon yn Cork.

Y flwyddyn ddilynol gofynnwyd i Price fod yn gapten ar dîm Dan-19 Cymru, a oedd yn croesawu Pencampwriaeth Ewropeaidd Menywod dan 19 2013 Uefa.

Roedd Price wedi bod yn pendroni hefyd ynglŷn â dyfodol ym maes taekwondo, a hithau wedi ymarfer yng nghlwb Devils Martial Arts sydd wedi'i leoli yn Nhredegar Newydd ochr yn ochr â un o sêr Prydain Fawr i'r dyfodol, Lauren Williams - athletwraig arall a oedd yn newid o gic bocsio i taekwondo.

Sylwodd Fighting Chance - yr ymgyrch canfod doniau sy'n cael ei chefnogi gan UK Sport - ar botensial Price pan oedd yn 16 oed ac ar un adeg bu'n byw ym Manceinion gyda Jade Jones, sydd wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd, a'i chyd bencampwr byd Bianca Walkden.

Ond, ar ôl penderfynu symud yn ôl at ei theulu yn ne Cymru, penderfynodd Price y gallai'r sgwâr bocsio fod yn gyfrwng arall ar gyfer ei doniau chwaraeon.

Yn 17 oed, a hithau ond wedi ymladd un gornest amatur, enillodd Price fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd y Menywod a Phencampwriaethau Ieuenctid y Byd yn 2011.

Golygai galwadau cynyddol hyfforddiant aml-gamp ac astudio ar gyfer BTEC fod gofyn i Price benderfynu ble roedd ei dyfodol hi, a bocsio aeth â hi.

Profodd iddi wneud y penderfyniad iawn pan greodd hanes fel y focswraig gyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad, gan fynd â'r efydd yn Glasgow 2014. Enillodd fedal efydd arall ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd 2016 yn Sofia, Bwlgaria.

Dechreuodd 2018 yn llwyddiannus dros ben i Price wrth iddi ennill medal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad ym mis Ebrill ar Arfordir Aur Awstralia, gan guro'r ffefryn cartref Caitlin Parker yn y rownd derfynol i gipio'r fuddugoliaeth.

Sicrhaodd fedal efydd hefyd ym Mhencampwriaethau'r Byd 2018 ar ôl colli ei rownd gyn-derfynol i Fontijn ar benderfyniad rhanedig.

Ni wnaeth Price gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop yn 2019, gan ddewis canolbwyntio ar Bencampwriaethau'r Byd ar ôl ennill ei medal aur yn y Gemau Ewropeaidd yn Minsk, Belarws ym mis Gorffennaf - lle bu'n ymladd Fontijn eto gan ddangos ei bod yn dechrau meistroli ei gwrthwynebydd o'r Iseldiroedd.

A hithau bellach wedi profi ei sgiliau bocsio yn erbyn goreuon y byd, bydd Price yn camu i'r flwyddyn nesaf yn un o'r ffefrynnau i hawlio teitl Olympaidd yng Ngemau 2020 yn Tokyo.