Rhybudd am ddefnydd canhwyllau wedi tân Trefor, Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Tân ac AchubFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llawr gwaelod y tŷ yn Nhrefor ei ddifrodi'n llwyr ac mae gweddill y tŷ wedi dioddef difrod mwg

Mae swyddog tân yn rhybuddio am beryglon canhwyllau heb oruchwyliaeth yn dilyn tân difrifol yng Ngwynedd nos Lun.

Cafodd dynes mewn tŷ yn Nhrefor ei rhybuddio gan larwm mwg, ac fe achosodd y tân ddifrod i lawr gwaelod y tŷ i gyd a difrod mwg i'r llawr cyntaf.

Bu farw cath yn y digwyddiad ar Lime Street hefyd.

Y gred ydy bod y tân wedi ei achosi gan gannwyll a gafodd ei adael ar sil ffenestr, aeth wedyn yn ei flaen i losgi bleindiau pren uwchben.

Rhybudd amserol

Dywedodd Jeff Hall, Pennaeth Safonau Proffesiynol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn tynnu sylw'n glir at bwysigrwydd larymau mwg sydd wedi rhybuddio'r preswylydd am dân yn ei chartref.

"Fe geisiodd y preswylydd fynd i'r afael â'r tân ei hun, ac roedd yn hynod lwcus i ddianc heb gael ei brifo'n ddifrifol.

"Byddwn yn apelio ar breswylwyr i fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio canhwyllau neu fflamau noeth.

"Mae'r rhybudd hwn yn arbennig o berthnasol yn y cyfnod cyn y Nadolig pan fydd pobl yn ystyried defnyddio canhwyllau yn eu haddurniadau Nadoligaidd.

"Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio'r canhwyllau golau te a weithredir gan fatri, y gellir eu prynu am gost fach ac sy'n cael eu gweithredu gan fatri yn lle bod angen fflam arnynt.

"Mae'r canhwyllau electronig hyn yr un mor effeithiol wrth greu awyrgylch ond maen nhw'n llawer mwy diogel na channwyll."