Ailedrych ar reolau parcio wedi dirwyon i bobl anabl
- Cyhoeddwyd
Mae siopwyr wedi cael eu dirwyo yn "anghywir" mewn maes parcio sy'n gostwng amseroedd parcio am ddim pan fo digwyddiadau chwaraeon ymlaen gerllaw.
Fel arfer mae pobl yn cael parcio am ddim ym Mharc Manwerthu Capital yn Lecwydd, Caerdydd am hyd at dair awr.
Ond mae'r amser yna'n gostwng i awr a hanner pan fydd gemau yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd dafliad carreg i ffwrdd.
Fe apeliodd Celyn Jones, 29, yn llwyddiannus yn erbyn dirwy ar y sail nad oedd hi'n ymwybodol fod gêm ymlaen ar y pryd.
Dywedodd Premier Parking - rheolwyr y maes parcio - y byddan nhw'n comisiynu archwiliad annibynnol i'r mater.
'Anoddach i'r anabl'
Cafodd Ms Jones ddirwy pan wnaeth hi ymweld â'r parc manwerthu i siopa gyda gofalwr ym mis Mawrth eleni.
Doedden nhw ddim yn ymwybodol fod Caerdydd yn chwarae yn y stadiwm ar y pryd, oedd yn golygu fod amseroedd parcio am ddim wedi gostwng.
Dywedodd y ddau nad oedden nhw wedi gweld arwyddion fod gêm ymlaen, ac felly aethon nhw dros y cyfyngiad amser a derbyn dirwy o £90.
Gyda chymorth y Prosiect Cyngor Anabledd (DAP), llwyddodd Ms Jones i apelio yn erbyn y penderfyniad ar ran ei gofalwr.
Fe wnaeth yr elusen hefyd helpu Catrin Cufflin, 39 oed, sydd â pharlys yr ymennydd, i apelio'n llwyddiannus am ddirwy a gafodd am yr un rheswm.
Mae llai o amser parcio yn effeithio mwy ar bobl anabl, yn ôl cyfarwyddwr y DAP, Pauline Jones.
"Mae'n cymryd cryn dipyn yn hirach i berson anabl ddod allan o'r car, rhoi'r ramp i lawr, dadlampio ac yna mynd yn ôl i'r cerbyd," meddai.
"Mae hefyd yn cymryd mwy o amser yn aml iawn iddyn nhw fynd o amgylch y siopau hefyd."
'Digon o rybudd'
Dywedodd llefarydd ar ran Premier Parking eu bod yn credu bod "digon o rybudd yn cael ei arddangos ar yr arwyddion" a bod 90 munud yn "amser rhesymol i unrhyw addasiadau gael eu gwneud ar ddiwrnodau gemau".
"Fodd bynnag, byddwn yn ymgynghori â'r sefydliad Anabl Moduro'r DU ac yn cael eu cyngor ar y mater hwn," ychwanegodd.
"Yn ogystal, byddwn yn comisiynu archwiliad ar wahân, annibynnol gan Gymdeithas Parcio Prydain (BPA) i sicrhau ein bod yn cwrdd â'r safonau llym a osodwyd ar gyfer arwyddion."