Pontydd Hafren yn fwy prysur ers diddymu tollau

  • Cyhoeddwyd
Pontydd Hafren
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau bont ar draws afon Hafren wedi gweld cynnydd mewn traffig ers i'r tollau ddod i ben yn Rhagfyr y llynedd

Mae cynnydd wedi ei gofnodi yn nifer y teithiau rhwng Cymru a Lloegr ar hyd Pontydd Hafren yn y flwyddyn ers diddymu'r tollau i'w croesi.

Dywed Highways England, sy'n gyfrifol am y pontydd, bod yna 32% yn fwy o draffig ar bont yr M48, er bod yr union ffigyrau ddim ar gael.

Ac roedd yna 16% o gynnydd yn nifer y teithiau tua Chymru o Loegr ar Bont Tywysog Cymru - dros 39,000 o deithiau bob diwrnod ar gyfartaledd o'i gymharu â llai na 34,000 y diwrnod yn 2018 pan roedd rhaid talu £5.60 i groesi'r pontydd mewn car.

Dywedodd cymdeithas foduro'r AA bod y ffigyrau'n dangos bod y cynllun dileu tollau "wedi ei gyflawni yn ôl y disgwyl".

Roedd rhai yn pryderu ynghylch effeithiau posib mwy o draffig wedi i astudiaeth gan Lywodraeth y DU ddarogan chwe miliwn yn rhagor o deithiau ar y pontydd erbyn 2022, gan gynyddu tagfeydd yn nhwnneli Brynglas ger Casnewydd.

Ffynhonnell y llun, Lewis Clarke/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Ar un cyfnod roedd yn costio o leiaf £6.70 i groesi'r pontydd

Roedd y tollau, oedd ond yn berthnasol wrth deithio i'r gorllewin tua Chymru, mewn grym am ddegawdau cyn dod i ben ar 17 Rhagfyr 2018.

Roedd yna waith am rai misoedd wedi hynny i dynnu'r bythau tollau - gwaith oedd yn golygu cyfyngiadau cyflymdra dros dro.

Yn ôl Highways England, roedd yna gynnydd o 8.9% yn nifer y cerbydau'n teithio tua'r dwyrain ar yr M4 ar draws Pont Tywysog Cymru, gyda 40,364 o deithiau ar gyfartaledd bob diwrnod yn 2019 o'i gymharu â 37,056 yn 2018.

Lleihau bwlch

Yn y ddwy flynedd diwethaf, roedd yna 3,000 yn rhagor o deithiau bob dydd ar gyfartaledd ar y lôn ddwyreiniol ddi-dâl nag ar y lôn orllewinol.

Ond wedi i'r tollau ddod i ben, mae'r bwlch wedi lleihau i 1,000 yn fwy o deithiau tua'r dwyrain.

Mae'n ffigyrau'n dangos bod y bont wedi ei chroesi tua 24.2m o weithiau i'r ddau gyfeiriad rhwng Ionawr a Hydref 2019, o'i gymharu â 21.6m yn y 10 mis cyfatebol yn 2018.

Dydy ffigyrau manwl tebyg ddim ar gael yn achos Pont Hafren M48 oherwydd trafferthion technegol gyda pheiriannau cyfrif traffig yn 2018.

Ond mae Highways England yn dweud bod yna 25,000 o deithiau bob dydd ar ei hyd, o'i gymharu â thua 19,000 yn y blynyddoedd diweddar.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Ciwiau i dalu am groesi'r ail bont ar draws afon Hafren cyn i'r tollau ddod i ben

Dywedodd Luke Bosdet o'r AA mai helpu economi Cymru i ffynnu oedd nod dileu'r tollau a bod cynnydd mewn traffig yn rhywbeth i'w ddisgwyl.

"Mae mwy o draffig, felly, yn adlewyrchu economi mwy egnïol," meddai.

"Mae cael gwared ar dollau'r Hafren yn golygu bod yn ffordd yn cael gwneud ei job, sef galluogi traffig i symud o Loegr i Gymru yn y ffordd fwyaf effeithiol.

"Mae wedi mynd yn ôl y disgwyl."