Arestiadau'n 'gwneud dim gwahaniaeth' wrth daclo cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Dydy'r nifer fawr o bobl sy'n cael eu harestio yn "gwneud dim gwahaniaeth" wrth ddelio â phroblemau cyffuriau, yn ôl elusen.
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio 178 o bobl mewn wyth mis fel rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â delio cyffuriau yn ardal Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Tom Moore bod y ddinas bellach yn lle "mwy anodd" i ddelwyr cyffuriau weithredu.
Yn ôl Martin Blakebrough o elusen Kaleidoscope Project byddai mwy o gefnogaeth i'r rheiny sy'n gaeth yn ddatrysiad gwell.
30 o bobl yn euog
Fe wnaeth Heddlu'r De lansio Ymgyrch Crater ym mis Ebrill ac ers hynny maen nhw wedi canfod gwerth dros £175,000 o gyffuriau a £100,000 mewn arian parod mewn cyrchoedd.
Mae dros 30 o bobl gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r ymgyrch wedi'u cael yn euog o droseddau'n ymwneud â chyffuriau hefyd.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Moore bod yr ymgyrch wedi bod yn "llwyddiant mawr" a'i fod wedi gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol".
"Yr hyn rydyn ni'n ei weld ydy bod argaeledd y cyffuriau rydych chi'n gallu ei gael ar y stryd wedi gostwng," meddai.
"Mae gan bob dinas fawr yn y DU broblemau gyda chyffuriau a throseddau treisgar, sy'n gysylltiedig.
"Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud yw ei gwneud hi'n ddinas fwy anodd i'r rheiny sydd eisiau gwerthu cyffuriau."
Ymgyrch 'hen-ffasiwn'
Ond dywedodd Mr Blakebrough, prif weithredwr elusen Kaleidoscope Project, bod arestio cynifer o bobl heb ddatrys y broblem.
"Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw ostyngiad yn nifer y bobl sy'n dod at ein gwasanaethau na'r nifer sy'n gwerthu cyffuriau ar y stryd," meddai.
"Mae'n ffordd hen-ffasiwn o wneud pethau, ac nid yw'n gwneud y gymuned yn fwy diogel.
"Canlyniadau mynd yn llawdrwm ar gyffuriau yw bod delwyr yn mynd yn llawdrwm ar ei gilydd."
Ychwanegodd Mr Blakebrough bod angen canolbwyntio adnoddau ar atal y defnydd o gyffuriau a thrin y rheiny sy'n gaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2019