Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Solihull Moors
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Wrecsam i ennill eu hail gêm o fewn wythnos i'w codi o waelodion y Gynghrair Genedlaethol.
Solihull Moors oedd yr ymwelwyr i'r Cae Ras brynhawn Sadwrn ac roedd Wrecsam ar y blaen wedi 21 munud.
Omari Patrick sgoriodd o 18 llath gydag ergyd nerthol i gornel y rhwyd. Fe ddyblodd Wrecsam eu mantais eiliadau cyn yr egwyl diolch i gôl gan James Jennings.
Mae'r fuddugoliaeth o 2-0 yn codi Wrecsam i'r 20fed safle yn y tabl.