Lliwiau'r Gymraeg: Siwgr coch, gorau glas a gwenith gwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraeg yn defnyddio lliwiau ar gyfer mwy nag un diben ac nid yn unig i ddisgrifio 'lliw' rhywbeth. Mae ein hiaith yn frith o ddywediadau, ymadroddion ac idiomau sy'n defnyddio ystyron gwahanol y lliwiau cyffredin, fel coch, glas, gwyn a llwyd:
Coch
Cyn bod y Cymry'n dweud brown (o'r Saesneg brown), coch oedd y gair oedd yn cael ei ddefnyddio.
Cwrw coch oedd mild beer neu pale ale, a bara coch oedd bara brown. Roedd te heb lefrith yn cael ei alw'n de coch, nid du, a defnyddiwyd siwgr coch am siwgr brown.
Mae llawer o Gymry'n dal i ddweud coch yn lle brown ar lafar. Y term ers talwm am arian parod oedd arian coch neu arian cochion gan gyfeirio at y darnau copr, y ceiniogau.
Adeg o lifogydd mawr mae rhai'n dal i gyfeirio at afonydd yn goch ac mae'r hen ddywediad 'Gwynt Coch Amwythig' yn cyfeirio at wynt poeth a sych o'r dwyrain oedd yn cario llwch pridd coch Amwythig efo fo.
Mae coch hefyd yn cael ei ddefnyddio i awgrymu rhywbeth agos at yr asgwrn ac amharchus. Dyna darddiad enw'r gyfrol fechan Englynion Coch sy'n cynnwys pob math o englynion na ddylid eu darllen yn gyhoeddus!
Ond ar wahân i fod yn ansoddair mae'r gair coch hefyd yn gallu bod yn ferf. Y term am rhywun yn gwrido'n ei wyneb neu ffrwyth fel afal neu domato yn aeddfedu, yw cochi.
Dyma'r gair y dylid ei ddefnyddio am y gair Saesneg smoked hefyd, gan mai cochi pysgod a chochi cig sydd yn gywir yn Gymraeg nid eu mygu na'u 'smygu!
Glas
Mae gan y gair glas hefyd amrywiaeth o ystyron. Mae'n cael ei ddefnyddio am y gwahanol raddfeydd o wyrdd, glas a llwyd.
Glasiad y wawr oedd y term ers talwm am doriad y wawr am bod lliw llwyd ysgafn i'r awyr wrth i'r haul godi. Aeth yr ystyr glas wedyn i olygu 'iawn' neu 'o ddifri', sef union amser y wawr, adeg y golau glas ysgafn.
Dros amser defnyddiwyd yr un cyfystyr 'iawn' ar gyfer pen arall y dydd a chreu'r ymadrodd 'hwyr glas', sef yn hwyr iawn eithaf. Dyma gychwyn ymadroddion fel 'Mae'n hwyr glas arna i'n archebu lle ar yr awyren' neu 'Aeth hi'n hwyr glas arnom yn cychwyn'.
Dyma hefyd fwy na thebyg sydd tu ôl i'r ymadrodd 'gwneud fy ngorau glas' sef 'gwneud hyd eithaf fy ngallu'.
Mae glas yn golygu llwyd hefyd e.e. llechen las, ceffyl glas (neu march glas) a buwch las. Ers talwm, arian gleision oedd y darnau arian, y sylltau, yn hytrach na'r darnau copr 'coch'.
Ystyr arall glas yw ifanc neu newydd, sydd yn amlygu ei hun mewn ymadroddion fel Wythnos y Glas i fyfyrwyr newydd, glaslanc am lanc ifanc a thir yn glasu am dir â thyfiant newydd.
Ac i ddrysu pethau ymhellach, mae'n air arall am gwyrdd hefyd, fel yn yr ymadrodd 'tir glas' am dir heb ei aredig, ac yn y gair gwelltglas.
Glasu mae rhai mathau o gaws hefyd wrth aeddfedu a magu darnau glas.
Gwyn
Ar wahân i ddisgrifio pethau gwynion - eira, llaeth, calch ac yn y blaen - mae gwyn hefyd yn golygu 'o wallt golau' neu 'o bryd golau', sy'n egluro'r enw Gwyn a Wyn mewn enwau Cymraeg a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i ddisgrifio gwedd pobl.
Mae'n gwbl synhwyrol bod gwyn wedi ei gysylltu â pethau pur, perffaith a sanctaidd ac felly hawdd gweld o ble daw'r ymadrodd 'Gwyn dy fyd' a 'Fy mab gwyn', sy'n golygu 'pur' ac 'wedi ei fendithio'. Brawd Gwyn yw'r term Cymraeg am White Friar neu Cisterian Monk.
Ond mae gwyn hefyd yn golygu 'annwyl', 'rhagorol, 'prydferth a 'dymunol' sy'n egluro'r 'gwyn' yn 'man gwyn man draw' - bod rhywle dymunol a gwell yn rhywle arall o hyd.
Yr enw gan nifer o bobl am fraster neu grawen amrwd ar gig yw cig gwyn. Gwenith gwyn wedyn yw gwenith aeddfed. Gwynias sy'n cael ei ddweud gan rai pan mae rhywbeth mor boeth nes ei fod wedi mynd heibio i fod yn goch.
Gall gwyn hefyd olygu cael dymuniad neu foddhad. Ar lafar yn Arfon mae 'gweld fy ngwyn' neu 'rhoi fy ngwyn ar rywbeth' yn golygu 'cymryd ffansi at rhywbeth a'i ddwyn'.
Ganrifoedd yn ôl roedd gwyn yn cael ei ddefnyddio am y lliw ambr pan yn trafod gwin. Rydym yn dweud gwin gwyn (er nad yw o ddifri yn 'wyn') er mwyn cyferbynnu â lliw gwin coch.
Mae nifer o enwau planhigion hefyd yn cynnwys gwyn: gwyn y dillad (hemlock), gwyn y cloddiau (fool's parsley) a gwyn y merched (wild tansy, silverweed) i enwi rhai.
Llwyd
Er bod glas yn gallu golygu llwyd, mae gan y gair llwyd ei hun nifer o ystyron!
Papur llwyd i lawer o Gymry yw papur brown; papur lapio parseli. Yn y canoloesoedd roedd llwyd yn golygu sanctaidd fel yn yr enw am yr urdd grefyddol Y Brodyr Llwyd.
Ac fel berf rydym yn ei ddefnyddio pan mae bwyd wedi dechrau troi ac wedi llwydo a magu llwydni.
Hefyd o ddiddordeb: