Gwersi gwleidyddol ac esgidiau brôg
- Cyhoeddwyd
Efallai bod y pynciau a'r personoliaethau yn wahanol heddiw, ond yr un yw gêm y gwleidyddion wrth iddyn nhw grwydro'r etholaethau i geisio ennill pleidleisiau yn nyddiau olaf ymgyrch etholiad cyffredinol 2019.
Roedd y newyddiadurwr a'r prifardd Dylan Iorwerth yn ohebydd seneddol i BBC Cymru yn Llundain cyn sefydlu cylchgrawn Golwg ac mae'n cofio sut dechreuodd ei addysg wleidyddol yng Ngheredigion gan wleidydd "oedd byth yn trafod gwleidyddiaeth".
"Rhyw fath o eilydd o'n i wrth ohebu ar fy ymgyrch etholiadol gynta', yn ôl yn 1983. Ond, trwy gael fy nanfon i Geredigion i gymryd lle'r gohebydd arferol (oedd ar wyliau), mi ddysgais i sawl gwers wleidyddol.
"Geraint Howells yn sefyll fel craig y tu allan i Siop y Pethe yn Aberystwyth... doedd o ddim yn gorfod mynd at bobl; roedd pawb yn dod ato fo. A doedd o byth yn trafod gwleidyddiaeth.
"'Fachgen, fachgen, mae'n edrych yn ddrwg,' meddai. 'Mae'r Torïaid yn mynd i ennill.' A'r hen lwynog o Bonterwyd yn gobeithio y byddwn i'n darlledu hynny - sbardun perffaith i berswadio cefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru i'w gefnogi o.
"Isetholiadau fuodd wedyn yn fy nghyfnod yn ohebydd yn San Steffan - o Tony Benn yn cipio Chesterfield (a'r cawr Denis Healey'n areithio'n gofiadwy yn y cyfarfod gwleidyddol gorau a welais i erioed, gan alw Margaret Thatcher yn 'Catherine the Great of Finchley') i gyfres o isetholiadau ar draws Gogledd Iwerddon wrth i'r Unoliaethwyr brotestio yn erbyn y Cytundeb Eingl-Wyddelig.
"Dyna pryd y mentrais i (yn wirion braidd) i Crossmaglen yn agos at y ffin, lle'r oedd milwyr yn cerdded wysg eu cefnau a hofrenyddion milwrol yn glanio yn y cae ffwtbol. Dyna be ydi gwleidyddiaeth o ddifri.
"Ar y ffordd yn ôl i Belffast â ffilm yng nghefn y car, mi welais i goed yn symud ... un set o filwyr yn atal ceir, y lleill yn cuddio mewn brigau o boptu'r ffordd, a'u gynnau'n anelu'n syth ata' i.
"Roedd hi'n fwy heddychlon ym Mrycheiniog a Maesyfed yn 1985, lle'r enillodd un o ddisgyblion Geraint Howells. Gwers wleidyddol arall. Yn y sedd amaethyddol honno, roedd gweld esgidiau brôg cyfforddus Richard Livsey yn ddigon i wybod y byddai'n ennill. Mae undod rhwng ymgeisydd ac etholaeth mor bwysig â pholisïau."
Hefyd o ddiddordeb: