Etholiad 2019: Anodd mesur effaith y cyfryngau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Fe all yr ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol gael effaith fawr ar bwy sy'n ffurfio'r llywodraeth nesaf, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.
Yn ôl Matt Walsh mae'r ymgyrchu ar-lein yn cael effaith "ymylol" ond pwysig ar bleidleiswyr.
Mae pleidiau gwleidyddol yn defnyddio fideos a hysbysebion sydd wedi'u hanelu at bleidleiswyr penodol ar lwyfannau fel Facebook, Twitter ac Instagram.
Maen nhw wedi gwario cannoedd o filoedd o bunnoedd i ddenu sylw pleidleiswyr wrth i'r ymgyrch agosáu at ei therfyn.
Mae Mr Walsh, o ysgol newyddiaduraeth y brifysgol, wedi bod yn dadansoddi effaith yr ymgyrchu gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd fod y gwleidyddion yn tynnu ar eu profiad o dargedu pleidleiswyr yn ystod etholiadau eraill.
'Pleidiau'n dysgu gwersi'
"Mae'r pleidiau wedi dysgu gwersi o'r ddwy ymgyrch ddiwethaf ac yn ceisio cyflwyno eu negeseuon i ddefnyddwyr mewn modd clir ac awdurdodol," meddai Mr Walsh.
"Felly rydym yn gweld llawer o ddefnydd, yn enwedig ar Twitter, o negeseuon byr, miniog gan Jeremy Corbyn sy'n ceisio annog ei gefnogwyr.
"Ond mae'r syniad yna nawr yn cael ei fabwysiadu gan y Ceidwadwyr."
Tra bod y pleidiau yn cynhyrchu fideos i ledaenu eu negeseuon neu dargedu gwendidau eu gwrthwynebwyr, maen nhw hefyd yn prynu hysbysebion ar Facebook sydd ond yn cael eu gweld gan ddefnyddwyr penodol.
Mae gan Facebook lyfrgell agored sy'n dangos holl hysbysebion gwleidyddol y wefan, ac mae'n bosib gweld faint mae'r pleidiau a'u hymgeiswyr yn ei wario ar hysbysebu bob wythnos, a faint o hysbysebion sydd ar y wefan ar unrhyw adeg.
Mae'r cyfanswm yn newid yn ddyddiol, ond mae rhai wedi bod yn dosbarthu miloedd o hysbysebion ar y tro ac mae'r ymgyrch ar-lein yn debygol o gryfhau wrth i ddiwrnod yr etholiad nesáu.
Maen nhw hefyd yn gwario ar hysbysebion mewn mannau eraill fel YouTube, a thrwy dalu er mwyn i wefannau eu pleidiau ymddangos ar frig canlyniadau Google.
Beth yw'r budd?
Dwedodd Mr Walsh ei bod "hi'n anodd mesur yr effaith mae fideos a negeseuon gwleidyddol yn ei gael ar y cyfyngau cymdeithasol".
"Ond yr hyn mae'r pleidiau yn ceisio ei osgoi yw cael eu dal yn eu hunfan," meddai.
"Dydyn nhw ddim am fod mewn sefyllfa lle dydyn nhw ddim yn defnyddio dyfais fyddai'n cael dylanwad, ac yn eu helpu i fuddugoliaeth.
"Er ei bod hi'n anodd gweld beth fydd yr effeithiau, mae hyd yn oed effaith fach yn yr etholiad hwn yn gallu bod yn ddigon i blaid sicrhau mwyafrif."
Ond mae pleidiau hefyd yn gallu gwneud cawlach ohoni hefyd wrth ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd y Ceidwadwyr eu beirniadu am gyhoeddi fideo wedi'i olygu o ymgeisydd Llafur, Keir Starmer, tra bod Facebook wedi tynnu un o'i fideos am iddo gynnwys lluniau'r BBC.
Ond mae gwallau yn gallu bod yn fantais hefyd, yn ôl Mr Walsh.
"Mae hwn yn gyfnod newydd i'r pleidiau. Dydyn nhw ond wedi bod yn gwneud hyn go iawn ers rhyw bum mlynedd," meddai.
"Felly yn amlwg, mae adegau pan mae pethau annisgwyl yn digwydd.
"A oedd fideo Keir Starmer yn flerwch neu yn gynllwyn bwriadol? Mae'n anodd dweud.
"Ond ar y llaw arall, roedd pobl yn rhannu ac yn ymateb i'r fideo gan olygu fod llawer mwy wedi gweld y fideo na fyddai wedi fel arall.
"A oedd y ffrae werth y pris? Mae hynny'n gwestiwn arall - a dwi'n meddwl y byddai'n rhaid gofyn i'r Ceidwadwyr ateb hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019