Gyrrwr yn yr ysbyty ar ôl i bolyn daro car ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl i bolyn metel dorri drwy ffenestr ei gar tra'r oedd yn gyrru ar draffordd.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i'r M4 am 06:20 yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad ar ffordd ddwyreiniol y draffordd rhwng cyffyrdd 34 Pencoed a 33 ger Pont-y-clun.
Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans cafodd un person ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i'r digwyddiad.