Darganfod cannoedd o adar marw ar ffordd ym Môn

  • Cyhoeddwyd
AdarFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae cannoedd o ddrudwy marw wedi eu darganfod ar ffordd gefn yn Ynys Môn fore Mercher.

Y gred yw fod yr adar wedi marw brynhawn dydd Mawrth am 15:40 ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.

Dywedodd llefarydd o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd fod yr adar wedi eu darganfod ar y ffordd yn agos i Lyn Llywenan ger Bodedern, a bod tua 225 o'r adar marw ar y ffordd.

Cafodd degau o adar eraill eu darganfod yn y cloddiau bob ochr i'r ffordd, ond nid oedd adar wedi eu darganfod yn y caeau cyfagos.

Mae swyddogion o Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn ymchwilio i farwolaeth yr adar ar y safle, a'r bwriad yw cynnal profion ar yr adar i geisio darganfod achos y marwolaethau.

Dywedodd Dafydd Edwards, sy'n byw gerllaw: "Fe wnes i gyfri 150 neithiwr, ond wedyn rhoi'r gorau iddi am fod cymaint yna.

"Mae fel tasen nhw wedi disgyn o'r awyr."

Ychwanegodd fod ei bartner Hannah Stevens wedi gweld yr adar yn bwyta rhywbeth yn y ffordd yn gynharach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB: "Yn amlwg mae hyn yn bryderus i ni, ac fe fyddwn ni'n disgwyl am ganlyniadau profion.

"Byddai'n amhriodol i ni ddyfalu sut y bu'r adar farw."