Teithwyr wedi eu hanafu wedi gwrthdrawiad bws yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
bws abertawe

Mae dyn 63 oed wedi cael ei arestio ac un teithiwr wedi cael anafiadau all beryglu bywyd wedi i fws deulawr daro pont rheilffordd yn Abertawe.

Dywed Heddlu De Cymru bod wyth o bobl wedi cael eu hanafu wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Castell-nedd ychydig cyn 09:40 ddydd Iau.

Cafodd y person sydd â'r anafiadau gwaethaf ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, a phump yn rhagor mewn ambiwlans i Ysbyty Treforys, gan gynnwys dau ddyn gydag anafiadau difrifol.

Mae cwmni bysiau First Cymru wedi dechau ymchwiliad llawn i'r gwrthdrawiad.

Dywedodd Chris White, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod y pum claf sy'n cael eu trin yno mewn cyflwr sefydlog, gan gynnwys y ddau ag anafiadau difrifol - i'r pen yn achos un dyn ac i'r wyneb a'r frest yn achos dyn arall.

Roedd tri dyn arall wedi torri esgyrn, ac mae dau berson arall bellach wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i'r bws yn y twnnel dan y bont reilffordd

Mae'r ffordd yn dal ar gau ac mae'r heddlu'r gofyn i bobl osgoi'r ardal.

Yn ôl Cyngor Abertawe, mae'r digwyddiad yn ardal Hafod wedi arwain at amharu ar wasanaethau trenau, ac mae disgwyl i hynny barhau tan 15:00.

'Pawb mewn sioc'

Dywedodd Andrew Sherrington, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: "Gallwn gadarnhau bod un o'n cerbydau ar Wasanaeth 10 rhwng Campws Singleton Prifysgol Abertawe a Champws Y Bae Prifysgol Abertawe wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda phont, sydd wedi arwain at anafiadau i nifer o deithwyr.

"Rydym wedi danfon tîm cefnogol yn syth a dechrau ymchwiliad llawn i'r amgylchiadau sydd wedi arwain ar y gwrthdrawiad yma, ac rydym yn helpu Heddlu De Cymru gyda'u hymholiadau.

"Mae pawb yn First Cymru mewn sioc yn sgil y digwyddiad yma ac rydym yn cydymdeimlo o galon gyda'r rhai sydd wedi'u hanafu."

Mae llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau bod nifer o'u myfyrwyr nhw ymhlith y teithwyr.

Ychwanegodd bod staff lles myfyrwyr mewn cysylltiad â'r unigolion oedd yn rhan o'r digwyddiad "ac yn cynnig pa bynnag help a chefnogaeth sydd angen arnyn nhw".

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod bysiau yn gweithredu yn lle trenau, ac maen nhw hefyd yn gofyn i yrwyr osgoi ardaloedd Ffordd Castell-nedd a Hafod.

Mae nifer o gerbydau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar y safle ger Clwb Cymdeithasol Glandŵr.

Ar wefan Twitter dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai llai o drenau'n medru rhedeg ar rai leiniau, ac na fyddai'r rhai sydd yn weithredol yn medru stopio yng ngorsaf Abertawe.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan ofyn i bobl ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 1900456484.

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr rheilffordd yn edrych ar ran o do'r bws ar y trac