Dylunio braich brosthetig i fachgen pump oed

  • Cyhoeddwyd
Jacob, Gemma a Ben RyanFfynhonnell y llun, Ben Ryan
Disgrifiad o’r llun,

Jacob gyda'i fam Gemma a Ben Ryan (dde)

Mae gŵr o Ynys Môn wedi dylunio braich brosthetig i gynorthwyo bachgen bach pump oed o Sir Gorllewin Efrog.

Roedd Ben Ryan o Borthaethwy eisoes wedi dylunio braich debyg ar gyfer ei fab ei hun ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei fraich pan oedd yn 10 diwrnod oed.

Mae Mr Ryan wedi rhoi gorau i'w waith fel darlithydd seicoleg er mwyn sefydlu cwmni ei hun ac erbyn hyn mae ei gwmni Ambionics wedi uno gyda chwmni prosthetig Glaze o Wlad Pwyl.

Un o'i gleientiaid cyntaf oedd Jacob o Sir Gorllewin Efrog, ar ôl i'w rieni gasglu £16,000 i ddatblygu a dylunio braich arbennig ar ei gyfer.

Roedd y teulu'n dymuno cael penelin oedd yn gallu gweithredu mewn safleoedd gwahanol, gyda llaw sy'n gafael mewn gwrthrychau.

Ffynhonnell y llun, Ben Ryan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jacob yn dymuno cael braich werdd liwgar

Mae Mr Ryan wedi dylunio braich werdd arbennig, i gyd-fynd â dymuniad Jacob i gael un liwgar - mae modd iddo gau'r llaw wrth wasgu siambr rwber llawn dŵr sydd wedi'i lleoli ar frig y fraich.

"Dyna oedd Jacob eisiau, gan gynnwys llaw fwy, felly mae'r thema'n berffaith," meddai.

Moment 'hyfryd'

Wedi'r sesiwn ffitio, dywedodd mam Jacob, Gemma, bod gwylio ei mab gyda'r fraich yn foment "hyfryd".

Wrth gasglu arian dywedodd Gemma, sy'n swyddog heddlu, ei fod yn "deimlad rhyfedd iddyn nhw, ond mae'n rhaid gwneud beth sydd raid".

Dywedodd Mr Ryan: "Mae'r teulu wedi cael cymaint o anlwc wrth geisio cael cymorth i Jacob, does neb wedi gallu cynnig rhywbeth sy'n gweithio iddo.

"Nawr mae Jacob yn gallu rhoi cwtsh i'w frawd."