Seland Newydd eisiau penodi prif hyfforddwr y Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Brad MooarFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r Scarlets wedi cadarnhau bod Seland Newydd yn awyddus i recriwtio'u prif hyfforddwr nhw Brad Mooar i'w staff hyfforddi.

Cafodd Steve Hansen ei olynu gan Ian Foster fel prif hyfforddwr y Crysau Duon ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd, ac mae'n debyg bod Foster yn awyddus i Mooar ymuno fel is-hyfforddwr.

Byddai Seland Newydd eisiau i Mooar fod yn y swydd erbyn Gorffennaf 2020 ar gyfer y ddwy gêm brawf yn erbyn Cymru, gan olygu y byddai'n gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd y rhanbarth o Gymru eu bod nhw wedi cynnal "trafodaethau cynnar" ar y mater.

"Allwn ni ddim gwneud sylw pellach nes bod y trafodaethau hynny ar ben," meddai datganiad gan y Scarlets.

"Yn y cyfamser mae Brad, ei dîm hyfforddi a'r chwaraewyr yn canolbwyntio'n llwyr ar y gêm hollbwysig heno yng Nghwpan Her Ewrop yn erbyn Bayonne, ac yna'r gemau darbi Cymreig dros gyfnod y Nadolig."

Hwn yw tymor cyntaf Mooar wrth y llyw gyda'r Scarlets, ar ôl olynu Wayne Pivac sydd bellach yn brif hyfforddwr Cymru.

Hyd yn hyn mae'r gŵr 45 oed o Seland Newydd wedi ennill saith o'i 10 gêm gyntaf wrth y llyw.