Iselder pêl-droedwyr: 'Roedd y cae fel carchar'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y pêl-droedwyr sy'n gofyn am gymorth gyda'u hiechyd meddwl wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru a Lloegr.
Yn 2016, 160 o bobl gafodd sesiynau cwnsela mewn blwyddyn gyfan, ond o fewn naw mis eleni mae'r nifer eisoes dros deirgwaith yn fwy na hynny.
Mae Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA) wedi dweud bod dros 500 o bobl wedi cael cymorth rhwng mis Ionawr a Medi eleni - dros hanner ohonyn nhw'n gyn-chwaraewyr.
Mae BBC Cymru wedi siarad â Rhodri Jones, a symudodd yn 16 oed i chwarae dros Manchester United.
Ond cafodd ei obeithion o chwarae i un o glybiau mwya'r byd eu chwalu ar ôl cael anaf i'w ben-glin.
Yn 14 oed roedd hi'n ymddangos bod breuddwyd Rhodri ar fin dod yn wir - arwyddodd gytundeb ieuenctid gyda Manchester United ac o fewn dwy flynedd fe enillodd ysgoloriaeth gyda'r clwb.
Ond roedd hynny'n golygu gadael ei ysgol, ei deulu a'i ffrindiau yng Nghaerdydd.
"O'dd e'n amser caled - i bwy allet ti ddweud 'dwi'n pryderu am symud i fyny'?" meddai.
"Mae pawb yn dweud 'paid â bod yn silly - ti'n mynd i chwarae i Man U."
'Effaith seicolegol yn fwy difrifol'
Ond wythnos cyn i'r tymor ddechrau, fe gafodd anaf gwael i'w ben-glin.
"Chi methu colli bron i ddau dymor ac wedyn symud ymlaen," meddai.
"Er yr anafiadau, fe fyddwn i'n dadlau bod yr effaith seicolegol yn fwy difrifol."
Yna, yn 20 oed, fe gafodd ei alw i gyfarfod rheolwr Manchester United, Alex Ferguson, ac fe gafodd ei obeithion eu chwalu.
"Pan ti'n clywed Alex Ferguson - rhywun ti wedi edmygu ers yn ifanc - yn dweud 'sorry son, we're not going to renew your contract', mae'r gwymp llawer yn fwy."
Symudodd i chwarae dros Rotherham, ond doedd o ddim yn hapus ac fe gafodd dabledi gwrth-iselder gan ei feddyg.
"Roedd y cae fel carchar i fi - o'n i ar y cae ac yn edrych rownd a meddwl 'fi ddim eisiau bod fan hyn'," meddai.
Dydy Rhodri ddim yn chwarae pêl-droed erbyn hyn, ond fel tad i ddau o fechgyn mae ganddo neges i fechgyn a merched ifanc sy'n breuddwydio am gael bod yn bêl-droedwyr rhyw ddydd.
"Fi'n meddwl ei bod yn bwysig i ddatblygu dy gymeriad yn gyflawn," meddai.
"O'n i wedi ymrwymo cymaint o fy hunaniaeth gyda phêl-droed, pan 'naeth y gwymp ddod o'dd hi hynny'n galetach."
Dydy stori Rhodri ddim yn un anghyffredin.
Yn ôl y PFA - sy'n darparu cymorth i chwaraewyr pêl-droed - mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobl sy'n gofyn am help gyda phroblemau iechyd meddwl.
Dywedodd Doctor Carwyn Jones o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd wedi gwneud ymchwil yn y maes: "Mae'n ddiwydiant macho iawn, yn gystadleuol, a does neb eisiau dangos gwendid.
"Felly mae 'na lot o ffactorau sy'n mynd i mewn i greu'r broblem, a hefyd efallai'n gwneud hi'n anodd i chwaraewyr ofyn am help."
Er bod agweddau at iechyd meddwl yn y byd chwaraeon yn newid, mae 'na rybudd bod mwy i'w wneud.
Dywedodd prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies: "Mae eisiau gwneud mwy o ymchwil - sy'n costio.
"Pe bai codiad yn y buddsoddiad ym myd y campau dwi'n siŵr y byddai lot mwy o arian yn cael ei roi tuag at bethau fel hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019