Cau Stryd Fawr Bangor oherwydd tân
- Cyhoeddwyd

Mae rhan o un o brif strydoedd siopa Bangor ar gau ers bore Mawrth yn dilyn tân.
Cafodd tri chriw a phlatfform Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd eu galw i adeilad ar y Stryd Fawr rhwng y Gadeirlan a thafarn Y Varsity.
Bu'n rhaid i'r heddlu gau'r ffordd er mwyn caniatáu i swyddogion wneud eu gwaith ond mae'r gwasanaethau brys bellach wedi gadael y safle.
Does dim sôn eto pryd fydd y ffordd yn cael ei hailagor i gerbydau.

Roedd y stryd yn dal ar gau i gerbydau yn gynnar nos Fawrth