Simon Hart eisiau 'perthynas bositif' â Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Simon Hart

Mae Simon Hart, gafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cymru ddydd Llun, wedi dweud ei fod am weithio "law yn llaw" gyda Llywodraeth Cymru.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers ei ddyrchafu i'r cabinet dywedodd Mr Hart: "Rwyf am gael perthynas bositif gyda Bae Caerdydd.

"Mae'r ddau ohonom am sicrhau beth sydd orau ar gyfer pobl Cymru.

"Dwi ddim am i bethau gael eu rhwystro gan ffraeon pitw rhwng Caerdydd a San Steffan."

Ychwanegodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro mai ei rôl ef yw i fod yn "llais dros Gymru yng nghanol Llywodraeth y DU".

Pan gafodd ei holi ynglŷn â dyfodol swydd Ysgrifennydd Cymru yn y cabinet dywedodd Mr Hart: "Prif nod y prif weinidog yw hyrwyddo'r Undeb ac felly byddai ddim yn gwneud synnwyr i ddileu'r swydd."

'Perthynas bositif'

Pan holwyd am y berthynas rhwng Bae Caerdydd a San Steffan fe ddywedodd: "Rwy'n berson cydsyniol, ac o ran egwyddor, rwyf am gael perthynas bositif gyda Bae Caerdydd.

"Mae gennym yr un amcanion yn y diwedd, rydym eisiau'r gorau ar gyfer trigolion Cymru a'r ffordd o gyflawni hynny yw drwy weithio gyda'n gilydd," meddai.

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Hart ei fod yn rhannu'r un uchelgais a Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn credu mai dyna beth mae etholwyr Cymru eisiau weld, prun bynnag blaid y gwnaethon nhw bleidleisio drosti.

Gofynnwyd iddo hefyd am rannu'r gronfa ffyniant wedi Brexit, ac fe soniodd eto am gydweithio rhwng y ddwy lywodraeth er mwyn "dosbarthu'r budd-daliadau o'r cyfnod trawsnewidiol yma mewn ffordd briodol".

"Os bydd hynny'n diweddu mewn ffrae wleidyddol, yna byddwn wedi methu," meddai.

Ond ychwanegodd nad oedd yn rhagweld sefyllfa pan fyddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac yntau yn anghytuno ar rannu'r gronfa ffyniant.

"Ni fyddwn i nag yntau chwaith yn dioddef, busnesau ac economi Cymru fyddai'n dioddef.

"Rydym ein dau yn rhannu'r un uchelgais, uchelgais bositif, a dwi ddim am i bethau gael eu rhwystro gan ffraeon pitw rhwng Caerdydd a San Steffan."