Bloeddio 'El Bandito' unwaith eto yn Ysbyty Ifan

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

El Bandito'n dod adre!

Eleni, mae hi'n 10 mlynedd ers i'r reslar o Ysbyty Ifan, Orig Williams, farw.

Ond ddechrau Rhagfyr, roedd ysbryd El Bandito yn fyw unwaith eto yn neuadd ei bentre genedigol, wrth i Gai Toms a'r Banditos berfformio'r albwm Orig i dyrfa frwdfrydig.

Roedd yn rhan o daith ledled Cymru, yn dilyn perfformiad cofiadwy yn y Tŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, dolen allanol ym mis Awst - ac roedd hi wedi bod yn bwysig i'r band, sy'n cynnwys Tara Bethan, merch Orig, gael perfformio yn y pentref oedd mor agos at galon y reslar.

Roedd y perfformiad yn cynnwys fideos archif o El Bandito yn reslo, ac ychydig o reslo byw hyd yn oed, wrth i Gai Toms wisgo leotard coch a cheisio ail-greu rhai o moves enwog Orig!

Roedd BBC Cymru Fyw yno i weld y perfformiad gwych a gwallgo' - gwyliwch y fideo.

Hefyd o ddiddordeb: