Plygain: Hen draddodiad Nadoligaidd y Cymry

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin

Bob mis Rhagfyr, mae Capel y Tabernacl, Llanfyllin, yn croesawu pobl o'r gymuned, a thu hwnt, i wasanaeth Plygain arbennig.

Dyma un o hen draddodiadau Nadoligaidd y Cymry, lle mae pobl yn cymryd eu tro i ganu caneuon digyfeiliant o flaen y gynulleidfa.

Yn draddodiadol yn cael ei gynnal yn gynnar fore Nadolig, mae cymunedau ledled Cymru bellach yn cynnal gwasanaethau Plygain drwy gydol Rhagfyr a Ionawr, ac mae croeso cynnes i bawb!

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am y traddodiad arbennig yma.

Hefyd o ddiddordeb: