Gwireddu dymuniad dynes i gladdu ei llwch yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi rhoi caniatâd prin i godi llwch dynes o Bowys o fynwent yn Lloegr er mwyn gwireddu ei dymuniad i'w gwasgaru nôl yng Nghymru - 26 mlynedd ar ôl iddi farw.
Roedd Kathleen Etty-Leal yn byw yn Naunton Beauchamp, yn Sir Caerwrangon pan fu farw yn 1993.
Cafodd ei llwch ei gladdu mewn wrn ym mynwent yr eglwys yno, er ei bod wedi dweud wrth ei theulu ei bod eisiau iddyn nhw gael eu gwasgaru ar fryn ar gyrion Y Drenewydd.
Dan reolau Eglwys Loegr mae'n rhaid i'r amgylchiadau bod yn rhai eithriadol cyn caniatáu unrhyw fath o ddatgladdiad.
Clywodd llys eglwysig mai merch-yng-nghyfraith wnaeth fynnu bod gweddillion Mrs Etty-Leal yn cael eu claddu yn Sir Caerwrangon, a bod hithau bellach wedi ysgaru â'i gŵr.
Merch Mrs Etty-Leal, Sarah Worboys wnaeth apelio i'r llys er mwyn gwireddu dymuniad ei mam.
Dywedodd Canghellor Esgobaeth Caerwrangon, Charles Mynor - barnwr y Llys Consistori - bod y penderfyniad yn un anodd ond bod yr amgylchiadau'n ddigon eithriadol i gyfiawnhau datgladdu'r llwch.
Clywodd y llys bod Mrs Worboys wedi datgan sawl tro bod claddu'r llwch yn y fynwent leol yn "gamgymeriad" oherwydd roedd ei mam "wastad wedi bod eisiau [i'w llwch] gael eu gwasgaru yn ei mamwlad, gyda'i chyndeidiau, ym mryniau Cymru".
Dywedodd y Canghellor bod neb wedi gallu egluro iddo pam fod dymuniad y ferch-yng-nghyfraith wedi trechu rhai dau fab a dwy ferch Mrs Etty-Leal.
Roedd Mrs Worboys wedi dweud wrtho: "Ers yr angladd, rydw i wedi bod eisiau unioni'r cam er mwyn mam, ond do'n i ddim yn gallu gwneud dim byd amdano tan yn ddiweddar, pan wnaeth fy mrawd ysgaru, a wnes i ddarganfod bod fy mrawd yn cytuno â mi, fel y mae ein hanner-brawd a hanner-chwaer."
Clywodd y llys hefyd fod Mrs Etty-Leal yn glawstroffobig a ddim yn dymuno i'w gweddillion fod dan ddaear.
Dywedodd y Canghellor bod hi'n ymddangos na allai Mrs Worboys ddod i delerau â'r mater nes bydd dymuniad ei mam wedi ei wireddu.