Degawd yng ngwleidyddiaeth Cymru: Beth sydd wedi newid?

  • Cyhoeddwyd
bae caerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn, rydyn ni hefyd yn tynnu tua therfyn degawd cythryblus a thymhestlog yn y byd gwleidyddol - yng Nghymru a thu hwnt.

Rydyn ni'n gwybod fod y Deyrnas Unedig nawr yn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, a'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn dechrau ar bum mlynedd arall o lywodraethu.

Llafur sy'n parhau mewn grym ym Mae Caerdydd - er bod prif weinidog gwahanol gyda ni bellach i'r un oedd yn y brif swydd ar ddechrau'r degawd.

Ond faint sydd wedi newid mewn gwirionedd yng ngwleidyddiaeth Cymru ers 2010?

Dechrau newydd

Ar un llaw fe allech chi ddadlau nad oes llawer wedi newid yr ochr yma i Glawdd Offa - mae gennym ni dal brif weinidog Llafur, a'r blaid honno sydd wedi bod mewn grym yn ddi-dor ym Mae Caerdydd drwy gydol yr amser.

Ond mae'r wynebau'n sicr wedi newid. Yn Ionawr 2010 cwta fis i mewn i'r swydd oedd y prif weinidog newydd, Carwyn Jones, wedi iddo olynu Rhodri Morgan yn y rôl.

Roedd ganddo gabinet oedd hefyd yn cynnwys pedwar o ACau Plaid Cymru, gyda'r ddwy blaid dal mewn clymblaid yn y Cynulliad ac Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Dim ond pump o'r 15 aelod cabinet bryd hynny sydd dal yn ACau erbyn heddiw - Carwyn Jones ei hun, Elin Jones (sydd bellach yn Llywydd), Jane Hutt, Lesley Griffiths a John Griffiths.

Carwyn Jones a'i gabinet cyntaf - (chwith i dde) Blaen: Edwina Hart, Jane Hutt, Carwyn Jones, Ieuan Wyn Jones, John Griffiths. Canol: Leighton Andrews, Carl Sargeant, Elin Jones, Alun Ffred Jones, Gwenda Thomas. Cefn: Lesley Griffiths, Huw Lewis, Janice Gregory.Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cabinet cyntaf Carwyn Jones fel Prif Weinidog - sawl un ydych chi'n ei gofio?

Mae'r ACau cyfarwydd sydd wedi gadael y Siambr ers hynny yn cynnwys Jane Davidson, Edwina Hart, Leighton Andrews, Alun Ffred Jones, Rhodri Glyn Thomas ac Alun Cairns.

Draw yn San Steffan fe ddigwyddodd y newidiadau ar raddfa llawer mwy.

Ar ddechrau'r degawd diwethaf roedd Llafur dal mewn grym, gyda Gordon Brown yn brif weinidog, a'r Ceidwadwyr heb ddod i'r brig mewn etholiad cyffredinol ers 18 mlynedd.

Roedd David Cameron yn arweinydd yr wrthblaid, ond megis dechrau oedd y cyhoedd ar ddod i 'nabod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Doedd Nigel Farage ddim hyd yn oed yn arweinydd UKIP ar y pryd, tra bod Plaid Cymru a'r SNP ond yn dal naw sedd rhyngddyn nhw yn Nhŷ'r Cyffredin.

Nick Clegg a David CameronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gordon Brown oedd y prif weinidog ar ddechrau 2010 - ond ymhen ychydig fisoedd roedd gan Downing Street denantiaid newydd

Degawd o gynnwrf

Yn ystod y 10 mlynedd ers hynny mae tipyn wedi newid - rhai'n ddigwyddiadau mawr, eraill yn bethau sydd wedi digwydd yn raddol.

Yn 2011 fe gawsom refferendwm ar bwerau deddfu cynradd i Gymru, gyda'r ochr 'Ie' yn ennill o fwyafrif cyfforddus y tro hwn - 63.5% i 36.5% - o'i gymharu â'r bleidlais o drwch blewyn dros ddatganoli yn 1997.

Mae'r deddfau sydd wedi'u pasio yng Nghymru ers hynny'n cynnwys y ffi 5c ar fagiau plastig a'r cydsyniad ar roi organau, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd brynu Maes Awyr Caerdydd.

Cafodd rhywfaint o bwerau newydd, gan gynnwys ar drethi incwm, hefyd eu trosglwyddo i Fae Caerdydd - ond er yr holl drafod cyfansoddiadol mae grymoedd dros feysydd fel cyfraith a threfn a darlledu yn parhau i fod yn San Steffan, a dim ond 60 aelod sydd gan y Cynulliad o hyd.

ieuan wyn jonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n llai na 10 mlynedd ers i Blaid Cymru fod mewn llywodraeth, gydag Ieuan Wyn Jones fel arweinydd

Ar lefel Brydeinig, byddai bron yn haws rhestru'r pethau sydd heb newid! Rhwng 2010-2019 rydyn ni wedi cael:

  • 4 Prif Weinidog y DU - Gordon Brown, David Cameron, Theresa May a Boris Johnson;

  • 4 etholiad cyffredinol - dwy yn arwain at Senedd grog a dwy yn rhoi mwyafrif i'r Ceidwadwyr;

  • 6 Ysgrifennydd Cymru - Peter Hain, Cheryl Gillan, David Jones, Stephen Crabb, Alun Cairns a Simon Hart.

Cafodd gwleidyddiaeth Yr Alban ei thrawsnewid yn llwyr yn 2014 gyda'r refferendwm ar annibyniaeth - er i'r ochr 'Ie' golli gyda 45% o'r bleidlais, cododd y pwnc i fyny'r agenda gwleidyddol, ac ers hynny mae'r SNP wedi ennill mwyafrif y seddi Albanaidd yn San Steffan.

A phwy all anghofio Brexit wrth gwrs - y cwestiwn sydd wedi diffinio ail hanner y ddegawd.

Fe bleidleisiodd Cymru o 52.5% i 47.5% o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan efelychu'r canlyniad a gafwyd ar gyfer y DU gyfan.

Mae'n bwnc sydd yn siŵr o barhau i danio trafodaeth, wrth i'r effaith ar Gymru a'r berthynas ag Ewrop yn y dyfodol ddod yn gliriach.

Cenhedlaeth newydd

Sut mae ein gwleidyddiaeth ni yng Nghymru yn edrych erbyn hyn felly?

Yn y Cynulliad gellir dadlau nad ydy pethau wedi newid cymaint â hynny, gyda Llafur yn parhau mewn grym, a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cystadlu am yn ail i fod yn brif wrthblaid.

Yr unig newid i'r lliwiau ar y meinciau ydy dyfodiad UKIP, ac yna Plaid Brexit, sydd wedi disodli melyn y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae map gwleidyddol Cymru yn San Steffan yn edrych ychydig yn fwy glas bellach gyda'r Ceidwadwyr yn ennill tir, tra bod haen arall bellach oedd ddim yn bodoli ar y darlun gwleidyddol yn 2010 - y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Mark Drakeford ydy'r prif weinidog bellach - ond degawd yn ôl doedd o ddim hyd yn oed yn Aelod Cynulliad.

Ar droad y degawd roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ymgynghorydd arbennig i Rhodri Morgan, cyn olynu Mr Morgan fel AC Gorllewin Caerdydd yn 2011.

mark drakeford, vaughan gething ac eluned morganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd y tri ymgeisydd wnaeth sefyll i olynu Carwyn Jones fel prif weinidog - Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan - ddim hyd yn oed yn ACau ar ddechrau'r degawd

Yn wir, doedd 10 o'r 14 aelod presennol yng nghabinet Llywodraeth Cymru ddim yn ACau yn 2010 - roedd Ken Skates yn gynghorydd cymuned, Vaughan Gething yn gyfreithiwr, ac Eluned Morgan yn gweithio i SWALEC yng Nghymru.

Degawd yn ôl roedd arweinydd presennol Plaid Cymru, Adam Price, dal yn Aelod Seneddol a heb eto dreulio cyfnod yn astudio yn Harvard, tra bod arweinydd presennol y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn torchi llewys fel aelod cabinet ar Gyngor Gwynedd.

Roedd arweinydd presennol y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies eisoes yn AC ym Mhreseli Penfro, ond roedd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn dal i weithio fel syrfëwr cyn cael ei ethol i San Steffan yn 2010.

Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, fel maen nhw'n dweud - os felly, does wybod pa mor hir all degawd o newid deimlo ar adegau.

Faint fydd wedi newid yng Nghymru a'r DU erbyn diwedd 2029?

Fydd y gwledydd hynny'n dal i fodoli yn yr un ffurf erbyn hynny, neu ai wynebau newydd ond yr un hen stori fydd hi mewn gwirionedd?