Cael mynd adref am y Nadolig wedi 12 mis yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Elsie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elsie wedi bod yn yr ysbyty ers 12 mis o ganlyniad i fyw gyda math o epilepsi o'r enw syndrom Dravet.

Ar ddydd Nadolig, bydd merch fach o Wynedd yn cael mynd adref o'r ysbyty am y tro cyntaf ers blwyddyn.

Mae gan Elsie, sy'n dair, math o epilepsi o'r enw syndrom Dravet.

Cafodd drawiad epileptig ar noswyl Nadolig y llynedd, ac mae hi wedi bod ar ward plant Ysbyty Gwynedd ers hynny.

Ond fel cam cyntaf tuag at ddod adref yn barhaol, mae hi'n ymuno â'i theulu yn eu cartref newydd ar gyfer yr ŵyl.

Olew canabis

"Mae'n rhaid i ni gael y cartref er mwyn cael lle i ddau carer i ddod adra i fyw efo ni, mwy neu lai 24 hours," meddai ei mam, Gwennan Owen.

Mae syndrom Dravet yn golygu bod Elsie'n cael nifer o drawiadau epileptig pob dydd, a dydy hyd bywyd cleifion sydd â'r cyflwr ddim yn hir.

Ar hyn o bryd, mae hi'n cael olew canabis i leddfu ei ffitiau er mwyn gwella ansawdd ei bywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cael Elsie adra ar ddydd Nadolig yn dod â rhywfaint o "normalrwydd" medd ei mam Gwennan Owen

"Rydym ni'n hapus - mae'n teimlo fel golau ar ddiwedd y twnnel i Elsie," meddai Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaethau Clinigol Pediatreg yn Ysbyty Gwynedd.

"Mi ydyn ni'n ei gweld hi'n datblygu a'i hyder yn cynyddu, ac mae hi'n mynychu'r ysgol o 'ma. Mae'n symudiad ffantastig tuag at fynd â hi adref a dydyn ni methu disgwyl i hynny ddigwydd."

Yn ôl Gwennan, mae staff y ward fel "asgwrn cefn" iddi, a byddai Elsie "ddim lle mae hi rŵan" heb eu help.

'Normalrwydd'

Ond mae dod i weld Elsie bob dydd a gofalu am bum plentyn arall yn heriol.

"Dwi wedi rhoi fy ngwaith i fyny, ond obviously mae Dave [ei phartner] yn gorfod gweithio. Mae o just... 'dan ni ddim 'di cael dewis a ti'n gorfod cario 'mlaen efo be' 'sgen ti, basically. Chwysu lot, b'yta lot o jocled a keep going!"

Bydd cael Elsie adra ar ddydd Nadolig yn dod â rhywfaint o "normalrwydd" i Gwennan a'i theulu.

"Fydd o just yn braf, yn bydd? Fydd hi'n gallu eistedd efo nhw a gwneud be' mae hi isio'i wneud.

"Fydd o'n magical iddi hi."