Staff yn helpu trefnu priodas mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae claf sydd â salwch angheuol wedi priodi ei phartner mewn ysbyty yn y gogledd ar Noswyl Nadolig.
Fe wnaeth staff Ysbyty Gwynedd ym Mangor helpu drefnu priodas o fewn ychydig ddyddiau ar gyfer Duane a Lynda Bailey.
Fe wnaeth rhan o Ward Ffrancon gael ei defnyddio ar gyfer seremoni briodas y cwpwl o Ben-y-groes, Gwynedd.
Yn wreiddiol, roedd y ddau wedi bwriadu priod yn gynharach eleni.
Dywedodd Mr Bailey: "Roedd hwn yn ddiwrnod arbennig i ni, a heb help y staff byddai byth wedi digwydd."
Yn ogystal ag addurno'r ward, y staff hefyd wnaeth y gacen briodas ar gyfer y cwpl sydd wedi bod gyda'i gilydd am 21 o flynyddoedd.
"Fe wnaeth y staff fynd i gymaint o drafferth i sicrhau fod y diwrnod yn un perffaith," meddai Mr Bailey.
"Fe wnaethant helpu Lynda baratoi a sicrhau bod rhan o'r ward wedi neilltuo ar gyfer y seremoni.
"Roedd o'n hyfryd fod y staff yn gallu ymuno gyda'r teulu a ffrindiau i wylio'r briodas."