Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Chorley
- Cyhoeddwyd
Roedd dwy gôl gynnar yn ddigon i roi hwb enfawr i Wrecsam a thri phwynt gwerthfawr yn erbyn Chorley.
Fe aeth Wrecsam ar y blaen wedi chwe munud. Pas dda gan Redmond yn rhyddhau JJ Hooper i sgorio.
Fe ddyblodd Wrecsam eu mantais pedair munud yn ddiweddarach, Hooper yn sgorio ei ail yn dilyn gwaith da eto gan Redmond.
Daeth y drydedd gyda chwe munud o'r gêm yn weddill. Camgymeriad yn y cefn gan Omari Patrick i Chorley ac Meppen-Walters oedd yno i fanteisio.
Fe sgoriodd Cholrley gôl gysur ym munud olaf y gêm gyda'r eilydd Massanka'n rhwydo.