Dyn yn ymddangos yn y llys wedi marwolaeth Fairbourne
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 75 oed o dde Gwynedd wedi ymddangos yn y llys am y tro cyntaf ers cael ei gyhuddo o lofruddio ei wraig.
Bu farw Vivienne Bryan, 74, mewn eiddo yn Rhodfa Francis yn Fairbourne ddydd Nadolig.
Cafodd Thomas Bryan ei gadw yn y ddalfa wedi'r gwrandawiad a barodd ddau funud yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Bydd yn ymddangos o flaen Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r stryd toc wedi 20:00 ar 25 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau fod dynes wedi dioddef anafiadau difrifol.
Bu farw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hadfywio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2019