Teyrngedau i'r milfeddyg a'r arweinydd côr 'Wyn y Fet'
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn arweinydd Côr Ar Ôl Tri sydd wedi marw yn 65 oed.
Sefydlwyd y côr yn Aberteifi gan Wyn Lewis, ac ef fu'n arwain am y 30 mlynedd gyntaf.
Roedd Wyn Lewis o Aber-porth hefyd yn filfeddyg blaenllaw yng ngorllewin Cymru am ddegawdau.
Mewn teyrnged ar dudalen Facebook, dywedodd Carwyn James, ffermwr o Grymych: "Anodd credu ein bod ni wedi colli Wyn y Fet - dyn wedd gyda'r gallu i godi gwen ar wyneb pawb pan o'dd e'n galw ar glos y ffarm.
"Un o'r goreuon a eith byth yn angof."
Sawl llwyddiant a theithiau cofiadwy
Yn ôl arweinydd presennol Côr Ar Ôl Tri, Emyr Davies, roedd Wyn Lewis "yn gyfarwydd i bawb yn ne Ceredigion a gogledd Penfro".
"Dim ond tua dwsin ohonon ni oedd yn y côr ar y dechrau, yn cwrdd yn Sgwâr Finch, Aberteifi," meddai.
"Yn raddol, dros flynyddoedd o ganu mewn cyngherddau, nosweithiau llawen a thaith neu ddwy, dyma fagu hyder, cynyddu'r niferoedd a mentro cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Cafwyd sawl llwyddiant dros y blynyddoedd dan arweiniad Wyn, a sawl taith gofiadwy. Fodd bynnag, y daith drannoeth yr ŵyl oedd orau gan y bois - 'teithio'r fro' gan ymweld ag ambell dafarn ar y Sul."
Dywedodd fod Wyn Lewis "wrth ei fodd â chlasuron y byd corau meibion... a dim llawer ganddo i'w ddweud wrth drefniannau ac arferion cyfoes. Dwy reol y côr o hyd yw: 1. Dim dawnsio, a 2. Dim dawnsio o gwbl!"
Roedd hi'n "loes calon iddo ildio'r awenau oherwydd salwch" yn 2016, meddai Mr Davies, ond fe ymunodd â'r baritoniaid er mwyn parhau i ganu gyda'r côr.
"Gwaetha'r modd, yr un salwch aeth ag ef ddydd Sadwrn diwetha'," ychwanegodd. "Gadawodd fwlch yn rhengoedd y côr, a bu'n ergyd enbyd i Lucy a'r plant, Huw ei frawd a'r teulu i gyd."