Y Gynghrair Genedlaethol: Chorley 0-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi o safle'r pedwar isaf yn y Gynghrair Genedlaethol gyda buddugoliaeth bwysig oddi cartref yn erbyn Chorley.
Devonte Redmond ac Omari Patrick wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn Chorley, y tîm ar waelod yr adran.
Peniodd Redmond y gôl gyntaf ar ôl croesiad Patrick.
Ergyd Patrick seliodd ail fuddugoliaeth Wrecsam oddi cartref y tymor hwn.
Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn symud i safle 19, dau bwynt yn glir o Fylde sy'n safle 21.