Gwahardd AC Ceidwadol, Nick Ramsay wedi 'digwyddiad heddlu'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Nick Ramsay wedi cael ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd yn dilyn "digwyddiad yn ymwneud â'r heddlu".
Mae BBC Cymru ar ddeall fod AC Mynwy wedi cael ei arestio yn ei gartref yn dilyn digwyddiad ddydd Mercher, 1 Ionawr.
Mae e hefyd wedi ei wahardd o'r blaid Geidwadol wedi'r digwyddiad.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod Mr Ramsay, 44, wedi ei wahardd o grŵp y Cynulliad.
"Bydd y gwaharddiad yn cael ei adolygu yn dilyn ystyriaeth o'r mater gan asiantaethau allanol," meddai.
"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."