Achos dwyn tanwydd tri ambiwlans yn 'anodd i'w gredu'

  • Cyhoeddwyd
Difrod i un o'r ambiwlansysFfynhonnell y llun, Welsh Ambulance Service
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i un o'r ambiwlansys o ganlyniad i'r lladrad

Mae rheolwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi beirniadu lladron wnaeth ddwyn tanwydd o dri cherbyd ambiwlans ar Ddydd Calan, gan olygu bod rhaid eu tynnu oddi ar y ffordd am rai oriau.

Roedd angen trwsio'r cerbydau wedi'r difrod a gafodd ei achosi rywbryd nos Fercher yng ngorsaf ambiwlans Tredegar ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd rheolwyr y gwasanaeth bod hi'n "anodd credu" bod rhywrai wedi targedu gwasanaeth brys.

"Pam fydde unrhyw un yn difrodi a dwyn o ambiwlans?," meddai Lee Brooks, cyfarwyddwr gweithredu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. "Rwy'n cael trafferth deall, ond fe wnaeth hynny ddigwydd.

"Yn ffodus, dydy'r pethau yma ddim yn digwydd yn aml, ac mae pobl Cymru wastad wedi bod yn gefnogol eithriadol i'n gwaith, ar ac oddi ar y ffordd."

Gorsaf ambiwlans TredegarFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y troseddwyr hefyd wedi targedu car aelod o staff tu allan i'r orsaf ambiwlans yn Nhredegar

Roedd y troseddwyr hefyd wedi difrodi car aelod o staff y tu allan i'r orsaf ambiwlans ond chafodd tanwydd mo'i ddwyn o hwnnw.

Mae'r gwasanaeth wedi cysylltu â Heddlu Gwent ynghylch y digwyddiad ac yn cydweithio â'u hymchwiliad nhw.

Ychwanegodd Mr Brooks: "Rydyn nawr yn gofyn am help pobl ardal Tredegar - i ddod ymlaen os ydyn nhw wedi gweld neu glywed rhywbeth gall helpu dal y sawl a wnaeth hyn."