Prif Gwnstabl: Ymdrechion gwrth-gyffuriau yn methu
- Cyhoeddwyd
Nid yw ymdrechion i geisio lleihau defnydd o gyffuriau yng Nghymru wedi cael yr effaith sydd ei angen, yn ôl prif gwnstabl.
Dywedodd Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, nad ydy buddsoddiad i daclo'r broblem wedi gweithio dros y ddegawd.
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu dros £50m y flwyddyn i fynd i'r afael â dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.
Ond dywedodd Mr Jukes ei fod nawr yn bryd gwneud "rhywbeth gwahanol" wrth i nifer y marwolaethau gynyddu.
Mae cyfradd marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau wedi cynyddu o 84% rhwng 2008 a 2018 yng Nghymru - o 39 i 72 o farwolaethau ym mhob miliwn o'r boblogaeth.
Dywedodd Mr Jukes bod amcangyfrif y bydd rhywun sy'n gaeth i gyffuriau'n gyfrifol am werth £26,000 o droseddu i dalu am eu dibyniaeth, ac felly bod angen canolbwyntio ar driniaeth.
"Mae'n rhaid i ni edrych ymlaen a bod yn barod i edrych ar dystiolaeth o amgylch ymyrraeth wahanol, o bethau fel ystafelloedd i ddefnyddio yn ddiogel [neu] driniaeth gyda chymorth heroin," meddai.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru eisoes wedi dweud ei fod yn "sgandal" bod pobl yn "marw'n ddiangen" oherwydd nad yw triniaethau radical yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Arfon Jones bod y dull o ddelio gyda chyffuriau yn mynd i barhau i fethu oni bai bod newid.
Ychwanegodd Mr Jukes bod ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn berffaith ar gyfer treialu cynlluniau o'r fath.
"Os nad yma yna ble?" meddai.
"Gallwch chi weld lefelau uchel o niwed gan gyffuriau yn yr ardaloedd yma yn ail hanner y ddegawd ddiwethaf... [felly] mae angen i ni wneud rhywbeth gwahanol."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod 91% o bobl yn dechrau triniaeth am ddibyniaeth ar gyffuriau o fewn 20 diwrnod o gael eu cyfeirio.
Ychwanegodd llefarydd bod gweinidogion yn gweithio i leihau effaith camddefnyddio cyffuriau ar bobl a chymdeithas yn ehangach.
Ond dywedodd bod ystafelloedd i ddefnyddio cyffuriau yn ddiogel yn fater i Lywodraeth y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019