Cwest i farwolaeth dyn mewn rhaeadr yng Nglyn-nedd

  • Cyhoeddwyd
RhaeadrFfynhonnell y llun, Geograph / Chris Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Un o raeadrau poblogiadd Pontneddfechan

Mae cwest wedi clywed fod dyn ifanc 20 oed wedi boddi ar ôl neidio i raeadr o uchder mewn llecyn poblogaidd.

Fe waeddodd Bradleigh Williams o Drealaw yn y Rhondda am help ychydig ar ôl neidio o rhyw 25 troedfedd cyn plymio o dan y dŵr.

Hanner awr yn ddiweddarach fe lwyddodd y gwasanaethau brys i'w dynnu allan o'r dŵr ym Mhontneddfechan, Glyn-Nedd ar 24 Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd cariad Mr Williams, Amyleigh Tilley wrth y cwest fod y daith i'r llecyn wedi ei threfnu sawl diwrnod yn gynharach yn ystod cyfnod o dywydd braf.

Ychwanegodd fod Bradleigh Williams wedi ysmygu canabis rhyw ddwy awr cyn mentro i'r dŵr, ac roedd wedi cymeryd amffetaminau y noson flaenorol.

Doedd hi ddim yn meddwl fod Mr Williams wedi cael ei effeithio gan y cyffuriau pan neidiodd i mewn i'r pwll dŵr. Ychwanegodd ei fod wedi ymddangos yn nerfus am neidio wrth iddi a'i hewythr weiddi geiriau o gefnogaeth arno i blymio i'r dŵr.

'Wedi cyffroi'

Wedi iddo neidio, dywedodd Ms Tilley nad oedd yn gallu arnofio yn hir.

"Roedd Brad yn ymdrechu i ddod allan o'r dŵr, doedd o ddim o dan y dŵr yn llwyr ar y pryd," meddai. "Roedd wedi ei gyffroi ac nid oedd yn gallu dod allan. Roedd fel petae rhywbeth yn gafael ynddo o dan y dŵr."

Er fod ei ewythr a beicwyr mynydd oedd gerllaw wedi ceisio gafael ynddo, roedd eu hymdrechion yn aflwyddianus. Yna fe gyrhaeddodd swyddogion y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans ac aelodau o'r Tîm Ymateb Ardaloedd Peryglus i gynnig cymorth.

Erbyn i Bradleigh Williams gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Ngaherdydd, roedd wedi dioddef ataliad ar y galon. Bu farw yn theatr lawdriniaeth yr ysbyty yn ddiweddarach y noson honno.

Dywedodd PC Mathew Humpreys o Heddlu Dyfed Powys wrth y cwest yn Llys Crwner Pontypridd fod marwolaethau wedi digwydd yn y gorffenol yn y pwll ac nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus yn yr achos yma.

Wrth gofnodi dyfarniad o farwolaeth drwy anffawd, dywedodd y Crwner Graeme Hughes ei bod yn debygol fod Bradleigh Williams wedi ei effeithio gan ganabis ar y pryd ond nad oedd hyn yn ffactor sylweddol yn yr hyn a wnaeth.

Ychwanegodd: "Roedd na elfen o risg. Mae unrhyw naid o uchder i ddŵr yn cynnwys risg. Does dim i awgrymu fod Bradleigh wedi bwriadu marw. Nid oedd yn nofiwr cryf ac fe aeth i drafferthion ar ôl glanio yn y dŵr.

"Mae llawer o bobl yn cymryd risgiau. Mae llawer o bobl yn mynd i nofio ond heb y fath ganlyniadau trist ac anfwriadol."

Dywedodd nad oedd unrhyw fai arno am yr hyn oedd wedi digwydd.