CPD Porthmadog i enwi eisteddle ar ôl Dafydd Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Porthmadog wedi cadarnhau y bydd prif eisteddle newydd yn cael ei enwi ar ôl un o gyn-gyfarwyddwyr y clwb a fu farw cyn y Nadolig.
Cadarnhaodd y clwb y bydd eisteddle yn cael ei godi ar faes y Traeth, ac yn cael ei enwi er cof am Dafydd Wyn Jones.
Yr amcangyfrif yw y bydd y prosiect yn costio tua £150,000, ond fe fyddant yn dibynnu'n helaeth ar haelioni busnesau lleol a gwirfoddolwyr.
Mae apêl i gasglu £20,000 i gyfrannu at y gost wedi ei lansio, a'r gobaith ydy y bydd Eisteddle Dafydd Wyn yn barod ar gyfer y tymor nesaf.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Phil Jones: "Mae pawb wedi tynnu at ei gilydd yma, a diwedd y tymor mi fydd pobl leol yn dod at ei gilydd, gwirfoddolwyr, ar ddau benwythnos i helpu gyda'r gwaith.
"Mae yna adeiladwyr a seiri coed yn eu plith, pawb yn helpu.
"De' ni wedi gorfod cael arbenigwyr i mewn i roi'r to, a dyna lle mae'r gost fwyaf o'r £20,000.
"Mae cwmnïau lleol wedi bod yn ffeind iawn 'efo ni, a bydd o'n gyfle i ni gofio a rhoi teyrnged ar gyfer Dafydd oedd yn gymaint yn rhan o'r clwb."
Yn ôl gwefan y clwb, sy'n chwarae yng nghynghrair y Cymru North, roedd Dafydd Wyn Jones yn "bresenoldeb mor bwysig am gyfnod mor hir".
"Bu yn hollol allweddol i'r datblygiadau mawr sydd wedi digwydd ar y Traeth dros y blynyddoedd diwethaf ac yn brwydro ar hyd yr amser i sefydlu'r clwb ar seiliau ariannol cadarn."
'Cam naturiol nesa'
Fe fydd yr eisteddle newydd yn ymestyn dros ddwy ochr i fynedfa'r chwaraewyr ac o flaen yr eisteddle presennol ar y slabiau concrit sydd yno'n barod.
Fel rhan o'r ymgyrch i gasglu arian mae'r clwb wedi agor tudalen ar y we.
Dywed datganiad ar ran y clwb: "Hwn yw'r cam naturiol nesa' wrth ddatblygu'r Traeth.
"Yn ystod y blynyddoedd diweddar, cafodd y safle ei wella'n sylweddol gydag adeiladau newydd Clwb y Traeth a Chanolfan Sgiliau Osian Roberts gyda'i stafell gyfarfod a chegin fodern.
"Cafodd y newidiadau yma eu harwain gan Dafydd Wyn Jones a theimlad y Bwrdd yw bod yr amser wedi dod i symud ymlaen ac adeiladu eisteddle newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2019