McEvoy 'heb dorri ar draws cyfarfod therapi plentyn'
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidydd sy'n wynebu honiadau ei fod wedi bwlio staff mewn cartref plant wedi dweud wrth wrandawiad nad yw tystion yn gredadwy a'u bod wedi ymestyn y gwirionedd.
Mae'r aelod o Gyngor Caerdydd a'r AC annibynnol Neil McEvoy yn wynebu honiadau ei fod wedi bwlio staff oedd yn gyfrifol am les plentyn oedd yn honni achos o ymosod.
Dywedodd Mr McEvoy bod honiad ei fod wedi torri ar draws cyfarfod therapi y plentyn ddim yn wir a'i fod wedi gwneud trefniadau i fod yn y cyfarfod.
Mae is-bwyllgor safonau a moeseg Cyngor Caerdydd yn ymchwilio i honiadau bod y cyn aelod o Blaid Cymru wedi torri cod ymddygiad y cyngor.
Mae'r pwyllgor eisoes wedi clywed ei fod wedi ceisio cael mynediad i gyfarfod rhwng y plentyn, ei rieni a therapydd a bod ei ymyrraeth gyda'r teulu wedi arwain at roi stop ar gyswllt rhwng y plentyn a'i rieni.
Mae Mr McEvoy'n mynnu ei fod wedi cael gwahoddiad, a'i fod yn gweithredu ar ran y teulu, oedd yn ofni bod y plentyn wedi dioddef ymosodiad tra mewn gofal.
Galw am gefnogaeth cydweithiwr
Ddydd Mawrth, fe ddywedodd uwch weithiwr gofal preswyl gyda chwmni gofal preifat iddi ateb galwad i'r cartref ar 29 Ebrill gan Mr McEvoy, dyn nad oedd "erioed wedi clywed amdano o'r blaen".
"Eglurodd y byddai'n ymweld â'r cartref y diwrnod hwnnw oherwydd roedd yn teimlo bod yna risg i'r plentyn ac roedd eisiau ei weld," meddai wrth y gwrandawiad.
"Gwnes i egluro nad oedd hynny'n bosib, bod rhaid i mi warchod holl blant y cartref. Doedd e ddim yn derbyn hynny, roedd yn benderfynol ei fod am ymweld y diwrnod hwnnw."
Dywedodd ei bod yn teimlo braw ac fe alwodd am gefnogaeth cydweithiwr yn ystod yr alwad.
Ar ran Mr McEvoy, awgrymodd Jacqui Hurst, sy'n gweithio iddo, bod dim syndod bod tôn y gwleidydd wedi newid ar ôl i'r ddynes ddweud wrtho y byddai'n galw'r heddlu i'w gludo o'r cartref petai o'n mynd yno.
Dywedodd wedyn bod yna "wahaniaeth mawr" rhwng datganiad cyntaf y tyst, "pan doedd dim sôn am godi llais", a'i hail ddatganiad.
Cytunodd y tyst efallai bod newidiadau, ond bod y dystiolaeth ar y cyfan yr un fath.
"Dydy'r ffaith na ddywedais yn fy natganiad cyntaf bod rhywun wedi codi llais ddim yn golygu nad oeddwn i'n teimlo braw," meddai.
'Gwrthdrawiadol'
Clywodd y panel hefyd gan reolwr personél y cwmni gofal a ddywedodd wrth dad y plentyn bod rhaid canslo'r cyfarfod therapi oherwydd presenoldeb Mr McEvoy.
"Roedd Neil McEvoy yn eithaf gwrthdrawiadol," meddai. "Roedd ei ffôn reit yn fy wyneb, methodd â datgan pwy oedd e."
Dywedodd ei fod wedi teimlo dan fygythiad wrth i Mr McEvoy siarad ar ei ffôn, gan ei ddisgrifio i'r sawl ben arall y lein fel rhywun "wedi gwisgo'n flêr, yn moeli ac ychydig dros bwysau".
Cafodd hyn ei herio gan Mr McEvoy, oedd wedi gofyn i dad y plentyn recordio'r sgwrs ar ei ffôn. Dywedodd: "Ble rydw i'n dweud eich bod yn flêr? Rydych wedi ychwanegu at y dystiolaeth."
Atebodd y tyst: "Mae'n bosib."
Gofynnodd Mr McEvoy wrth y tyst os oedd, wrth gyflwyno cwyn ar 11 Mai, yn ymwybodol bod McEvoy wedi cwyno amdano ef.
Dywedodd y tyst na wyddai hynny, ond yn ôl Mr McEvoy roedd y recordiad yn dangos bod hynny'n gelwydd, oherwydd roedd eisoes wedi dweud wrtho i'w wyneb ei bod am gwyno'n ffurfiol.
Ychwanegodd Mr McEvoy ei fod yn anhapus gyda'r argraff ei fod wedi torri ar draws y cyfarfod wedi'r hyn a glywodd yn y gwrandawiad ddydd Llun.
Dywedodd Ms Hurst bod hi wedi helpu trefnu'r cyfarfod ac wedi siarad gyda gweithiwr cymdeithasol, ond bod hynny heb ei gydnabod yn ystod y gwrandawiad.
'Heb godi llais'
Dywedodd aelod arall o staff, wnaeth gyfarch tad y plentyn a Mr McEvoy yn y cartref, bod Mr McEvoy wedi bod yn ddig.
Clywodd y panel recordiad o'u sgwrs a gofynnodd Mr McEvoy: "A wnes i godi llais yn ystod y recordiad?"
Cytunodd nad oedd, ac fe ofynnodd Mr McEvoy pam ddywedodd hynny mewn datganiad
"Dyna ro'n i'n ei gofio," meddai'r tyst. "Yn fy marn i, roedd yn uwch nag sy'n normal."
Dywedodd Mr McEvoy wedyn bod y tyst wedi addurno'i dystiolaeth heb sylweddoli ei fod yn cael ei recordio, gan gyhuddo'r tyst o fod ymosodol tuag ato.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020