Arestio tri llanc wedi ymosodiad ger ysgol yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Dyffryn Nantlle in PenygroesFfynhonnell y llun, Google

Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ysgol yng Ngwynedd ddydd Llun yn dilyn adroddiadau fod tri llanc ifanc wedi teithio i safle'r ysgol i ymosod ar ddisgybl.

Cafodd tri bachgen 15 oed eu harestio ar amheuaeth o ymosod, wedi i'r heddlu fynd i Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes am 13:00 ar 6 Ionawr.

Mae'r tri llanc gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol eu bod "wedi dilyn trefniadau diogelu'r ysgol i sicrhau diogelwch ein disgyblion a staff [yn ystod digwyddiad dydd Llun] ac fe wnaethom hefyd rhoi gwybod i'r heddlu".

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Addysg Gwynedd: "Mae'r digwyddiad yma'n destun ymchwiliad heddlu ar hyn o bryd. Ni fyddai felly'n briodol i ni wneud unrhyw sylw ar yr adeg yma."