Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 15-22 Saracens

  • Cyhoeddwyd
Saracens' Sean Maitland is tackled by Sam Cross and Ma'afu FiaFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth y Saracens guro'r Gweilch yn Stadiwm Liberty er gorfod chwarae am 75 munud gyda 14 o chwaraewyr.

Fe gafodd y Cymro Rhys Carre ei anfon o'r cae ar ôl dim ond pum munud ar ôl ei dacl ar Dan Evans.

Fe fydd Carre, 21 oed ,nawr yn wynebu panel disgyblu'r wythnos nesaf am ei gerdyn goch.

Mae'r prop mewn peryg o golli ei le yng ngharfan Cymru, gyda'r gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ar 1 Chwefror.

Evans groesodd ar gyfer unig gais yr hanner cyntaf, gyda'r Saracens 12-10 ar y blaen ar yr egwyl.

Yn yr ail hanner sgoriodd Evans eto i roi'r tîm cartref ar y blaen, dim ond i Alex Lewington daro nôl i'r ymwelwyr.

Fe wnaeth pumed gic gosb Manu Vunipola selio'r fuddugoliaeth i Saracens.

Golygai'r canlyniad fod y Gweilch wedi colli eu pum gêm yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor hwn.