Cydnabod 'cyfraniad amhrisiadwy' Papur Sain Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Logo Papur Sain CeredigionFfynhonnell y llun, Papur Sain Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Huw Aaron sydd wedi dylunio'r logo newydd i'r papur

Mae Papur Sain Ceredigion yn dathlu ei hanner canmlwyddiant ers ei sefydlu fel y papur sain cyntaf yn y DU yn Ionawr 1970.

Cafodd y papur ei lansio gan Ronald Sturt, ac mae'n cynnig newyddion i dros 100 o bobl sydd â nam gweledol o ryw fath.

Yn San Steffan ddydd Gwener dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion, bod angen "cydnabod yr achlysur" a llongyfarch y papur am "y cyfraniad amhrisiadwy" i gymunedau'r ardal.

Mae Papur Sain Ceredigion hefyd yn dathlu gyda logo newydd wedi'i ddylunio gan Huw Aaron, cartwnydd i bapurau Private Eye a'r Spectator.

Yn ôl yn 1970, 18 o bobl oedd yn derbyn y papur sain, ond erbyn hyn mae 112 o wrandawyr yn siroedd gorllewin Cymru a thu hwnt.

Roedd y sylfaenydd Ronald Sturt yn ddarlithydd yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru yn Llanbadarn Fawr ac yn gyfrifol am greu'r Talking Newspaper Association UK, sydd nawr yn cael ei adnabod fel y Talking Newspaper Federation.

Bu farw ar 6 Ionawr 2003 yn 81 oed.

Ers sefydliad y papur 50 mlynedd yn ôl mae cannoedd o bapurau sain arall wedi cael eu sefydlu yn y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Lake wedi cyflwyno cynnig seneddol i gydnabod hanner canmlwyddiant y papur

Dywedodd Mr Lake ei fod yn "gamp aruthrol sy'n haeddu tipyn o glod - a dathlu".

Mae'r cynnig seneddol yn gorchymyn bod llwyddiant y papur, a chyfraniad penodol Mr Sturt, yn cael eu cydnabod, yn ogystal â chyfraniad y papur trwy helpu pobl â nam gweledol ar draws Gymru.

Mae Rhys Morgan, 71 o Bontrhydfendigaid yng Ngheredigion, wedi bod yn derbyn y papur sain am dros 15 mlynedd.

"Dwi'n licio gwybod am fy ardal fy hunain, fi'n licio clywed am Bontrhydfendigaid. Fi'n clywed bo rhywun wedi marw, neu rywun wedi priodi, a chi'n meddwl do' ni ddim yn gwybod hwnna!" meddai.

"Dyna beth yw'n hobby ar hyn o bryd yw gwrando... Fi'n byw ar ben fy hunain a fi'n cael tawelwch a llonydd i wrando."

Ffynhonnell y llun, Eurwen Booth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Morgan wedi bod yn derbyn y papur am dros 15 mlynedd

Mae gan Mr Morgan gyflwr sy'n achosi i'w lygaid a'i olwg ddirywio.

"Pan o'n i'n saith mlwydd oed fi'n gwbo' bo' mam wedi mynd a fi i weld doctoriaid... a bues i'n mynd i ysgol ddall Pen-y-bont ar Ogwr i blant dall ac yn rhannol ddall, ond o'n i'n gweld yn weddol.

"Ond ar ôl dwed o 'biti 35 oed ymlaen, aeth fy ngolwg yn waeth ac yn waeth, a pan o'n i'n 55 oed gwnaeth e waethygu lot yn fwy.

"Roedd fy ngolwg i mor wael o'n i ffili darllen y papur ynde, wedyn ges i bapur sain."

Ffynhonnell y llun, Eurwen Booth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mair Jenkins a Rona Fisher Davies yn recordio eitemau ar gyfer y Papur yn y gorffennol

Erbyn hyn mae 60 o bobl yn gwirfoddoli i gynhyrchu'r papur ac mae'r eitemau sy'n cael eu recordio yn cael eu postio am ddim gan Swyddfa'r Post.

Bydd dathliadau i gyd-fynd a'r hanner canmlwyddiant trwy gydol 2020.

Mae cynlluniau i gynnal noson i wirfoddolwyr yn Amgueddfa Ceredigion ym mis Mawrth a gobaith o bresenoldeb i'r papur yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst.