Plas Glynllifon yng Nghaernarfon yn mynd i law'r derbynnydd

  • Cyhoeddwyd
Glynllifon
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym Mhlas Glynllifon heddiw

Mae plasty hanesyddol ar gyrion Caernarfon wedi mynd i law'r derbynnydd.

Cafodd Plas Glynllifon, sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd, ei brynu gan Paul a Rowena Williams yn 2016 gyda'r gobaith o droi'r plasty yn westy moethus.

Ond mae gwefan Tŷ'r Cwmnïau wedi cadarnhau bod y cwmni wedi penodi derbynnydd ddydd Mawrth.

Cafodd newidiadau eu gwneud i gwmni Plas Glynllifon Ltd y llynedd.

Fe gafodd cyfarwyddwr Seiont Manor, Myles Cunliffe ei benodi'n gyfarwyddwr tra bod Paul Williams wedi camu 'nôl o'r cwmni.

Ers hynny mae Mr Cunliffe wedi camu o'r neilltu fel cyfarwyddwr gwesty moethus Seiont Manor yn Llanrug.

Ffrae am newid enw

Roedd pryder y byddai cyn-berchnogion y plasty 102 ystafell wely, MBi Sales o Halifax, yn cefnu ar yr enw Plas Glynllifon, gan iddyn nhw geisio ei farchnata fel Wynnborn Mansion.

Fe wnaeth y cwmni dynnu'n ôl o'r fenter yn fuan wedi'r pryder yn dilyn "ymateb negyddol" i'w gynlluniau.

Fisoedd yn unig yn ddiweddarch roedd ymdrech arall i ailenwi'r safle - y tro yma yn Newborough Hall - cyn iddyn nhw wneud tro pedol ar eu cynlluniau.

Yn gynharach ym mis Ionawr, cyhoeddodd Seiont Manor eu bod wedi cau am y tro yn dilyn ffrae bod nifer o weithwyr yno ddim wedi derbyn eu cyflogau.